Cernyweg/Kernewek

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Hen Rech Flin » Sad 11 Meh 2005 9:44 am

-Orion yr Heliwr- a ddywedodd:Ma hyn yn ddiddorol. Ydi'r wyddor Gernyweg yr un fath a'r un Saesneg, felly? Sylwi nes i ar ddefnydd "v" a "k".


Yr unig reswm nad oes k a v yn y Gymraeg bellach (na x – y llythyren gywir ar gyfer ch na ð – dd) yw pan gyhoeddwyd Beibl William Morgan yn 1588, roed raid wrth drwydded i gyhoeddi beiblau, a dim ond argraffwyr yn Llundain oedd yn dal y fath drwyddedau. Doedd gan cyhoeddwr Seisnig gwaith yr hen Wil dim digon o’r llythrenau k, v, x ac ati i gyflawni y gwaith, ond gan bod ganddo digonedd o flociau f, c a d fe newidiodd llythrenau traddodiadol yr iath Gymraeg i’r rhai sydd yn gyfarwydd i ni bellach. Gan na fu gymaint o gyhoeddiadau Cernyweg, ysywaith, mae’r Gernyweg wedi cadw ei k ei v a ballu.
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan sian » Sad 11 Meh 2005 9:59 am

-Orion yr Heliwr- a ddywedodd:mongvras - dwi'n cymyd mai enw Cernyweg sy gen ti! Ydi o'n golygu rhywbeth penodol?


Ga i ddyfalu? Ydi e'n golygu 'gwallt mawr/hir' h.y. "mwng" a "bras" = mawr?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Llefenni » Sad 11 Meh 2005 10:04 am

Yn hynod arwynebol - gennai lyfr Orvil an Morvil, a mae o'n cwrdd â morvorwyn a popeth - gwychbeth!!

Delwedd
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Postiogan eifs » Sad 11 Meh 2005 12:52 pm

ma dyddiau wythnos yn tebyf i'r Gymraeg yntydi??

(dwin meddwl beth bynnag)

Dy' Lun
Dy' Meurth
Dy' Gwener
Dy' Sadorn
Dy' Sul
Rhithffurf defnyddiwr
eifs
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1275
Ymunwyd: Mer 16 Chw 2005 3:18 pm
Lleoliad: Llanrug/Abertawe

Postiogan bartiddu » Sad 11 Meh 2005 1:01 pm

Ychydig, dwi'n credi, ond mae rhai Cymry tipyn o ffroenuchel wrthyn ni, yn gweld y Gernyweg fel math o joc, "Cornic", chwedl un academig o Gymro ers tro.


Ddrwg gen i m y 'Cymry ffroenuchel' :drwg:

Oes yna radio iaith Cernyweg gyda llaw? Dwi wedi ymdrechi i ddarganfod un, on ma' BBC Radio Cornwall yn saesneg i gyd (gor obeithio fod yna efaill i Radio Cymru gyda chi falle?) Dwi wedi bod yn gwrando ar y 4 gorsaf radio Llydaweg hefyd, ond tebyg mae rhywyn tebyg i Keri Jones radio Carmarthenshire sy'n rhedeg nhw gan bod nhw'n Ffraneg a Sasneg iawn eu naws (wedi annog fi i werthfawrogi gwasanaeth Radio Cymru yn fwy yn sicir!)
Dyw'r cwestiwn hyn ddim i fod yn nawddoglyd na 'ffroenuchel', ac ymddiheuraf os mae'n swnio fel hynny, ond a fydde hi'n syniad i gryfhau'r Cernyweg drwy annog mwy o ddysgu'r Gymraeg sy' ar hyn o bryd yn fynny fwy hefo'r gorsafau radio/teledu a'r farchnad llyfrau (falle bod hyn yn rhywbeth tebyg i gael pobol o berfeddion Sir Ceredigion i newid eu haccenion i Sir Fon a vice versa! :) ) neu rhyw ymdrech i agoshau'r ddau iaith (un cryfach yn rhoi cymorth i un gwanach fel petai) Wedi meddwl, syniad gwirion falle!, ond edrychaf ymlaen am dy ateb. 8)
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan mongvras » Sad 11 Meh 2005 6:13 pm

sian a ddywedodd:
-Orion yr Heliwr- a ddywedodd:mongvras - dwi'n cymyd mai enw Cernyweg sy gen ti! Ydi o'n golygu rhywbeth penodol?


Ga i ddyfalu? Ydi e'n golygu 'gwallt mawr/hir' h.y. "mwng" a "bras" = mawr?


Ydi, wir, yn llygaid ei le. Enw diafol oedd Mongvras mewn hen drama Gernyweg. :crechwen:
mongvras
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 22
Ymunwyd: Gwe 10 Meh 2005 8:37 pm
Lleoliad: Cernyw

Postiogan mongvras » Sad 11 Meh 2005 7:06 pm

-Orion yr Heliwr- a ddywedodd:Ma hyn yn ddiddorol. Ydi'r wyddor Gernyweg yr un fath a'r un Saesneg, felly? Sylwi nes i ar ddefnydd "v" a "k".


Cafodd orgraff y Gernyweg ei diwygio rhyw pymtheng mlwydd yn ol, neu mwy. Rwan dyn ni'n sgrifennu k bob amser ond mewn ch (am y son mewn "cheese" yn Saesneg).
Mae v am f-Cymraeg, ac f am ff-Cym. bob amser hefyd.
Mae u ac eu fel mewn Ffrangeg a LLydaweg,
ac y rhywbeth rhwng i ac e Cymraeg, heb dim y-tywyll o gwbl.
'Run beth, mae oe yn sefyll am son rhwng w ac o Cymraeg, ond nesa i'r cyntaf, mae'n debyg.
A does dim ll-Cymraeg, mae ll yn cynrychioli l-dwbwl fel mewn "calon".
dh am dd-Cym. (ar ol Edward Lluyd), a gh am ch-Cym., weithiau mwy nes i h.
Dyna'r cyfan dwi'n credi.

Er mae'r mwyafrif (80%-90%) yn foddlon iawn wrth y system 'ma, wrth sgwrs ma na leiafrif swnllyd sy'n galw am mynd nol i sgwennu qu a wh a c yn le k fel mewn Saesneg, a phethau eraill erchyll o'r un fath, am eu bod llawer mwy authentic iddyn nhw!
mongvras
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 22
Ymunwyd: Gwe 10 Meh 2005 8:37 pm
Lleoliad: Cernyw

Postiogan mongvras » Sad 11 Meh 2005 7:21 pm

eifs a ddywedodd:ma dyddiau wythnos yn tebyf i'r Gymraeg yntydi??

(dwin meddwl beth bynnag)

Dy Lun
Dy Meurth
Dy Gwener
Dy Sadorn
Dy Sul

Wedi anghofio Dy Mergher a Dy Yow :winc:
mongvras
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 22
Ymunwyd: Gwe 10 Meh 2005 8:37 pm
Lleoliad: Cernyw

Postiogan mongvras » Sad 11 Meh 2005 7:39 pm

bartiddu a ddywedodd:Ddrwg gen i m y 'Cymry ffroenuchel' :drwg:


Dim o gwbl. Beth bynnag dwi'n hoff iawn o'r hen Capt. Roberts. Ymlaen wrth y farddoniaeth :

Gorthugher da | dhis Barti
Morlader dell os | a vri
My . a'n avow
Nevre kyns | ny veu gwelyz
Splanna ezos | sur neb-pryz
Yn oll Kernow

Ott! : dha waskott | kogh, pur wir
Gonnyz kott | ha kledhe hir
Marthyz an gwel!
Hirgern, nakryz | ow seni
Dhe'n fo | pub eskar a fi
Heb hwans bresel


(Gwersi sillafog fel y rhai traddodiadol Cernyweg)

Rhaid i mi astudio tipyn gweddill eich post cyn ei ateb :rolio:
mongvras
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 22
Ymunwyd: Gwe 10 Meh 2005 8:37 pm
Lleoliad: Cernyw

Postiogan eifs » Sad 11 Meh 2005 9:24 pm

mongvras a ddywedodd:
eifs a ddywedodd:ma dyddiau wythnos yn tebyf i'r Gymraeg yntydi??

(dwin meddwl beth bynnag)

Dy Lun
Dy Meurth
Dy Gwener
Dy Sadorn
Dy Sul

Wedi anghofio Dy Mergher a Dy Yow :winc:


wn i, ond doeddwn i ddim yn cofio nhw, diolch am fy atgoffa.
Rhithffurf defnyddiwr
eifs
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1275
Ymunwyd: Mer 16 Chw 2005 3:18 pm
Lleoliad: Llanrug/Abertawe

NôlNesaf

Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron