Tudalen 1 o 6

Cernyweg/Kernewek

PostioPostiwyd: Gwe 10 Meh 2005 11:09 pm
gan mongvras
Oes 'na rhywun arall sy'n medru Cernyweg?

Rhywun sy'n ei dysgu hi?

Rhywun sy wedi ei hastudio mewn coleg?

Mae hi'r iaith nesa i'r Gymraeg wedi'r cyfan, ond ydi?

PostioPostiwyd: Gwe 10 Meh 2005 11:18 pm
gan Hogyn o Rachub
Me na vyn Sawsnek!

(Nadw, dim ond hynny dw i'n wbod, ond fyddwn i wrth fy modd yn dysgu Cernyweg!)

PostioPostiwyd: Gwe 10 Meh 2005 11:33 pm
gan bartiddu
Gorthewer da Mongrvas!
Wyt ti'n siarad yr iaith?
Dwi wastad wedi meddwl pam nad oes yna fwy o gysylltiad rhwng siaradwyr Cernyweg a Chymraeg (falle bod mwy na beth dwi'n meddwl?) Odi chi medru derbyn a deall S4C ar deledu lloeren yng Ngernyw?
:)

PostioPostiwyd: Sad 11 Meh 2005 1:01 am
gan mongvras
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Me na vyn Sawsnek!

(Nadw, dim ond hynny dw i'n wbod, ond fyddwn i wrth fy modd yn dysgu Cernyweg!)


Pur dha! Tamm gwell vie, "My ny vynnav kewsel Sowsnek!"

Pwnc o bwys, yr ystyr ydi nid "Alla i ddim siarad Saesneg" ond "Dwi ddim isio ei siarad!"

Oll a'n gwella, ytho!

PostioPostiwyd: Sad 11 Meh 2005 1:06 am
gan Hen Rech Flin
Gweler:

http://www.bbc.co.uk/cornwall/connected ... uage.shtml

am ddechreuad "twristaidd" syml i'r iath

PostioPostiwyd: Sad 11 Meh 2005 1:41 am
gan mongvras
bartiddu a ddywedodd:Gorthewer da Mongrvas!


Gorthugher da dhywgh, Barti,
Morlader dell os a vri!

Wyt ti'n siarad yr iaith?

Pa iaith/Py yeth?
Wel, fel y gwelwch, dwi'n medru 'ill dwy, i rywfaint o leia, ond mae'n anodd i mi cynnal y ddwy yr un pryd. (Felly dwi'n sgwennu Cymraeg go wael).
Dwi wastad wedi meddwl pam nad oes yna fwy o gysylltiad rhwng siaradwyr Cernyweg a Chymraeg [i](falle bod mwy na beth dwi'n meddwl?)

Ychydig, dwi'n credi, ond mae rhai Cymry tipyn o ffroenuchel wrthyn ni, yn gweld y Gernyweg fel math o joc, "Cornic", chwedl un academig o Gymro ers tro.
Odi chi medru derbyn a deall S4C ar deledu lloeren yng Ngernyw? :)

Ddim yn gwbod, does dim deledu gen i ar hun o bryd, heb dweud am flwch settop y loeren!
Ie, amser maith or on i'n clywed Cymraeg ar lafar. Hen bryd i mi neud ynweliad 'cw, ond oes?

PostioPostiwyd: Sad 11 Meh 2005 2:38 am
gan mongvras
Hen Rech Flin a ddywedodd:Gweler:

http://www.bbc.co.uk/cornwall/connected ... uage.shtml

am ddechreuad "twristaidd" syml i'r iath


Ie, da iawn, mae'n debyg. Mae ambell typo ynddo, fel "mar plek" am "mar pleg" (plis), ac "yrgh" am "ergh" (eira), ond ar y cyfan ardderchog yw.

Am weld yr iaith yn gweithio, ewch i :
http://www.geocities.com/cornishnews/
(ma 'na dolen i fersiwn saesneg hefyd)

PostioPostiwyd: Sad 11 Meh 2005 3:39 am
gan Hen Rech Flin
Joc gwael - yn ymylu a joc hiliol (newidia'r Gernyweg i'r Gymraeg a chwertha!) ond ta waeth.

O son am S4C, mae S4C2 yn wag am gyfnodau helaeth o'r amser ac yn dangos dim ond sgrin "be nesa".

Braf oedd gweld y sgrin gwag yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dangos "rhagbrofion" Eisteddfod yr Urdd yr wythnos diwethaf - prawf bod modd defnyddio y "cyfnod gwag" gan S4C2 ar gyfer darlledu "tsiep" gythreilug (sori!- ond dyna oedd dangos y rhagbrofion ar S4C2).

Rwy'n ddeallt yr anhawsder sydd gan S4C o ddefnyddio y gwasanaeth digidol, ac mae ystyriaiaethau arianol sy'n cyfri am y sgrin "gwybodaeth" sy'n gylchu ar S4C2, - ond o dalu ychydig ewros onid gellir cael raglen "cylchynol" o ddysgu Cymraeg, Dysgu Cernyweg, Dysgu Llydawewg ac ati, i lenwi'r bylchau! Eu dangos a'u hail dangos hyd at syrffed - neu hyd at ddealltwriaeth - llawer gwell defnydd o'r awyr "spar" na llun cylchynol sy'n dweud ar ddydd mawrth bydd ......

PostioPostiwyd: Sad 11 Meh 2005 5:00 am
gan HBK25
Dw i'n cael digon o drafferth hefo'r Gymraeg; fel all unrhyw un gweld o'r neges yma! 'Swn i'n hoffi dysgu Cernyweg a Gaeleg. Hefyd, dw i am drio dysgu Sbaeneg, ond mae hynna'n pwnc i ddiwrnod arall.

PostioPostiwyd: Sad 11 Meh 2005 8:10 am
gan -Orion yr Heliwr-
Ma hyn yn ddiddorol. Ydi'r wyddor Gernyweg yr un fath a'r un Saesneg, felly? Sylwi nes i ar ddefnydd "v" a "k".

mongvras - dwi'n cymyd mai enw Cernyweg sy gen ti! Ydi o'n golygu rhywbeth penodol?