-Orion yr Heliwr- a ddywedodd:Ma hyn yn ddiddorol. Ydi'r wyddor Gernyweg yr un fath a'r un Saesneg, felly? Sylwi nes i ar ddefnydd "v" a "k".
Yr unig reswm nad oes k a v yn y Gymraeg bellach (na x – y llythyren gywir ar gyfer ch na ð – dd) yw pan gyhoeddwyd Beibl William Morgan yn 1588, roed raid wrth drwydded i gyhoeddi beiblau, a dim ond argraffwyr yn Llundain oedd yn dal y fath drwyddedau. Doedd gan cyhoeddwr Seisnig gwaith yr hen Wil dim digon o’r llythrenau k, v, x ac ati i gyflawni y gwaith, ond gan bod ganddo digonedd o flociau f, c a d fe newidiodd llythrenau traddodiadol yr iath Gymraeg i’r rhai sydd yn gyfarwydd i ni bellach. Gan na fu gymaint o gyhoeddiadau Cernyweg, ysywaith, mae’r Gernyweg wedi cadw ei k ei v a ballu.