Tudalen 3 o 6

PostioPostiwyd: Sad 11 Meh 2005 10:25 pm
gan mongvras
Dyma wefan arall sy'n rhoi newyddion am y Gernyweg :

http://www.cornish-language-news.org/

Mae'n bosib ei gweld mewn pob ffurf o orgraff Gernyweg, yn hytrach na Saesneg.

lled-gyfeithiad

PostioPostiwyd: Maw 28 Meh 2005 11:06 am
gan Tyrthwr
Gorthugher da | dhis Barti
Morlader dell os | a vri
morleidr ??? o fri...?
My . a'n avow
Nevre kyns | ny veu gwelyz
byth cynt ?
Splanna ezos | sur neb-pryz
(sblannaf ? ? byth erioed)
Yn oll Kernow
yng Nghernew oll

Ott! : dha waskott | kogh, pur wir
(oh, dy waistcoat. coch, pur wir) (hollol wir)
Gonnyz kott | ha kledhe hir
(Gen ti .... a cleddyf hir)
Marthyz an gwel!
... y gwel..)
Hirgern, nakryz | ow seni
Hirgyrn, (corn hir yn canu..)
Dhe'n fo | pub eskar a fi
? pob ysgar ...
Heb hwans bresel
(heb chwant rhyfel)

PostioPostiwyd: Maw 28 Meh 2005 11:26 am
gan bartiddu
A, chi mor garedig. :D

Re: lled-gyfeithiad

PostioPostiwyd: Sad 15 Hyd 2005 6:44 pm
gan mongvras
Gweddol dda!

Tyrthwr a ddywedodd:Gorthugher da | dhis Barti = nosweith da i ti B.
Morlader dell os | a vri
morleidr ??? o fri...? = ... fel wyt o fri
My . a'n avow = "I swear it" Cymraeg?
Nevre kyns | ny veu gwelyz
byth cynt ? = ... does wedi ei weld ("ni fu gweledig")
Splanna ezos | sur neb-pryz
(sblannaf ? ? byth erioed) = ... ydwyt, siwr ...
Yn oll Kernow
yng Nghernew oll

Ott! : dha waskott | kogh, pur wir
(oh, dy waistcoat. coch, pur wir) (hollol wir) -- ott! = wele!
Gonnyz kott | ha kledhe hir
(Gen ti .... a cleddyf hir) -- dim "gen ti" yma ond "gynnau cwt" h.y. "pistols" Cymraeg?
Marthyz an gwel!
... y gwel..) = ardderchog, rhyfeddol ...
Hirgern, nakryz | ow seni
Hirgyrn, (corn hir yn canu..) -- naker yw math o ddrwm
Dhe'n fo | pub eskar a fi
? pob ysgar ... -- mae pob ysgar (gelyn) yn ffoi ar ffo
Heb hwans bresel
(heb chwant rhyfel)


Dwi'n credi fod hynny yn wir y gyd o hanes hen Barti co'

Dwi wedi bod i ffwrdd am dro, sori am y gohiriad :wps:

Mongvras

PostioPostiwyd: Maw 15 Tach 2005 11:29 am
gan Geraint
Kernewek! Dwisho dysgu. Fues i yna wythnos dwetha, am le fendigedig. A ges i fy

PostioPostiwyd: Maw 15 Tach 2005 12:02 pm
gan 7ennyn
Os dwi'n cofio'n iawn, yr unig fwrdd arholi i gynnig TGAU yn y Gernyweg nes yn ddiweddar oedd Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru. Dwi ddim yn siwr os oedd yr arholiadau ar gael yn y Gymraeg - os oedd, ella bod yna ddeunydd dysgu yn y Gymraeg o gwmpas y lle yn rhywle. Dwi ddim yn meddwl bod TGAU yn y Gernyweg yn cael ei gynnig gan unrhyw fwrdd arholi erbyn heddiw :( .

PostioPostiwyd: Sad 08 Ebr 2006 6:36 pm
gan mongvras
Geraint a ddywedodd:Kernewek! Dwisho dysgu. Fues i yna wythnos dwetha, am le fendigedig. A ges i fy

PostioPostiwyd: Sul 09 Ebr 2006 4:47 pm
gan sara
ginai ddiddordeb mawr mewn dysgu cernyweg, ynghyd a dysgu ieithoedd celtaidd eraill efallai! Os oedd bwrdd addysg gymraeg yn cynnig tgau cernyweg, fyddai'r deunydd dysgu dal yn ffloatio o gwmpas rhwle, yn boddi mewn dwst? Dwi'n gwbod fod Aber yn cynnig ieithoedd celtaidd fel rhan o'u rhaglen gradd Gymraeg, ond ydyn nhw'n cynnig cernyweg? Ydi hi werth cymeryd iaith geltaidd arall?

PostioPostiwyd: Sul 09 Ebr 2006 5:23 pm
gan anffodus
sara a ddywedodd: Dwi'n gwbod fod Aber yn cynnig ieithoedd celtaidd fel rhan o'u rhaglen gradd Gymraeg, ond ydyn nhw'n cynnig cernyweg?


Doeddan nhw ddim beth bynnag. Dim ond Gwyddeleg a Llydaweg. Roedd hynny flynyddoedd yn

PostioPostiwyd: Llun 10 Ebr 2006 12:02 am
gan mongvras
sara a ddywedodd: Os oedd bwrdd addysg gymraeg yn cynnig tgau cernyweg, fyddai'r deunydd dysgu dal yn ffloatio o gwmpas rhwle, yn boddi mewn dwst?


Drwy'r Saesneg yn unig oedd yr arholiadau tagu, dwi'n siwr. Fel ffafr i ni yng Ngheryw wedi i rhyw fwrdd mewn Lloeger peidio a gwneud y tro.

sara a ddywedodd: Dwi'n gwbod fod Aber yn cynnig ieithoedd celtaidd fel rhan o'u rhaglen gradd Gymraeg, ond ydyn nhw'n cynnig cernyweg?


Y fath o Gernyweg y bu ar gael yn y brifysgol oedd Cernyweg Canol (h.y. ffurf hanesyddol yr iaith). Dydy'r athrawon ddim yn hoffi'r iaith atgyfodiedig. Mae'n well gynnon nhw picio'r esgyrn sych disymud.

Mongvras