Tudalen 4 o 6

PostioPostiwyd: Maw 22 Awst 2006 8:47 pm
gan Nanog
Dwi'n gwybod fod y rhain yn frawddegau weddol syml ond mae'n anhygoel mor debyg i'r Gymraeg yw. Gallwch wrando arno yma 'fyd!

http://www.kdlcornish.freeserve.co.uk/freetrial.htm

PostioPostiwyd: Mer 20 Medi 2006 11:57 pm
gan mongvras
Nanog a ddywedodd:Dwi'n gwybod fod y rhain yn frawddegau weddol syml ond mae'n anhygoel mor debyg i'r Gymraeg yw. Gallwch wrando arno yma 'fyd!

http://www.kdlcornish.freeserve.co.uk/freetrial.htm


Mae pobl KDL yn dda iawn, dwi'n credi. Ma na llawer o bobl wedi dysgu Cernyweg drwyddyn nhw.

Mae cynllun i ddygu ein iaith ni mewn ysgolion fel rhan o'r curriculum swydhogol o Fedi 2007 'mlaen :P , ond rhaid cael cytundeb ynglyn ag orgraff cyn hynny. :? Wedi i uffern rhewi mae'n debig? Mi fydd y cach yn bwrw'r wyntyll cyn bo hir. :rolio:

Ar y pwynt 'na, oes rhywun yma, sy'n wedi dysgu tipyn o Gernyweg, ac iddo fo / iddi hi opiniwn ar y mater o orgraff, o olwg dysgwr? Rydyn ni'n chwilio am dystiolaeth i roi ger bron rhyw fath o gomisiwn, sy i varnu y mater -- druan o bobel!

Gwerthu LLyfrau Cernyweg ar e-bay

PostioPostiwyd: Iau 25 Ion 2007 8:58 pm
gan Ar Roue
Mae Kowethas an Kernewek mudiad iaith y Gernyweg am werthu eu cynyrch drwy e-bay yn y dyfodol .

Y llyfru lliwio i blant "ydhyn" ( Aderyn) fydd y cyntaf.

http://cgi.ebay.co.uk/ws/eBayISAPI.dll? ... &rd=1&rd=1

Mae Bwrdd yr Iaith Gernyweg yn croesawu cyhoeddiad LGC

PostioPostiwyd: Iau 08 Maw 2007 11:42 pm
gan mongvras
Mae Bwrdd yr Iaith Gernyweg yn croesawu cyhoeddiad drama Gernyweg ganoloesol gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

"Rydym wrth ein bodd fod y Llyfrgell yn dilyn ein hesiampl," medd Dr. Ken George ar ran y Bwrdd, "a gwyddom y bydd eu fersiwn fwy academaidd yn gaffaeliad i fyd ysgolheictod.

"Dyma'r unig ddrama am Arthur yn ein hiaith. Ni wyr neb sut y daeth hi i Aberystwyth, ond mae pobl Cernyw yn falch fod un o drysorau ein llen yn cael gofal da.

"Roedd ein hargraffiad poblogaidd ni y llynedd yn llwyddiant ysgubol. Am y tro cyntaf mewn canrifoedd, roedd Cernywiaid Cernyweg cyffredin yn medru fforddio mwynhau 'Buchedd Cei' yn eu hiaith eu hun.

"Testun balchder i ni yw gweld ein cefndryd Celtaidd yn gwerthfawrogi ein llenyddiaeth. Bydd y gyfrol ysgolheigaidd hon yn gaffaeliaid i lyfrgelloedd academaidd ar draws y byd. Llongyfarchwn y Llyfrgell ar eu hymagwedd oleuedig, a dymunwn bob llwyddiant i'r fenter."

Re: Cernyweg/Kernewek

PostioPostiwyd: Sul 10 Chw 2008 12:09 am
gan Seonaidh/Sioni
Wel dyna enw - Mongvras....
Greddf gwr, oed gwas,
Gwryd am ddias,
Meirch mwth myngfras
O dan forddwyd megrwas...(ayb)
[Aneirin, Y Gododdin, Awdl 1]

Ny won vy lyes Kernewek, drok yu genev.

Re: Cernyweg/Kernewek

PostioPostiwyd: Sul 10 Chw 2008 12:34 am
gan Positif80
Wnath Gwenno "Voice of Cornwall" Saunders endrych i lawr arnaf i pan wnes i gyfwelias hefo hi yn Wakestock 2003. Wnath tape recorder fi torri, o'n i'n gorfod cymeryd nodiadau...big deal..sgen i'm ffecin third nipple. Mind you, roedd y sgert oedd hi'n wisgo'n uffernol o fyr, a roedd gen i gamera ddigidol. Right turn, Clyde!

Re: Cernyweg/Kernewek

PostioPostiwyd: Sul 10 Chw 2008 7:24 am
gan Ar Roue
Newyddion da - Ceir un ffurf safonol o.r iaith Gernyweg.

Wele ychydig wybodaeth ar sut i wybod mwy am y Gernyweg,

Kernewek Dre Lyther (Cernyweg drwy Lythyr)
http://www.kdl.org.uk/

BBC Cornwall
(rhowch Blas Kernewek yn y blwch ymchwil)
Gwersi byr gyda sain

Maga
Partneriaeth Y Gernyweg (Bwrdd Iaith Llydaw)
http://www.magakernow.org.uk

Mae gan Andrew Curry lyfr i ddysgu “Cernyweg diweddaraf” does dim llawer yn defnyddio y ffurf yma o sillafu, ond defnyddiol iawn ar gyfer gramadeg,

Cernyweg diweddaraf teere ( tyr neu tir mewn ffurfiau eraill),

Mae llyfr i ddysgu Cernyweg ar y gweill, yn aros i’r gwaith o safoni’r iaith ei gwbwlhau.

Os oes galw gellir trefnu cwrs undydd drwy gyfrwng y Gymraeg, yng Nghaerdydd dyweder,

Re: Cernyweg/Kernewek

PostioPostiwyd: Llun 11 Chw 2008 11:12 pm
gan Ffrinj
Penderfynnais i ddoe 'mod i isio'i ddysgu hi. :lol:
Roeddwn i wedi synnu at mor debyg yw hi i Gymraeg :ofn:
Ond does dim llawer o gyfleoedd i mi ymarfer na dim byd :(

Re:

PostioPostiwyd: Sul 02 Maw 2008 9:14 pm
gan yavannadil
mongvras a ddywedodd:Ychydig, dwi'n credi, ond mae rhai Cymry tipyn o ffroenuchel wrthyn ni, yn gweld y Gernyweg fel math o joc, "Cornic", chwedl un academig o Gymro ers tro.


Nid Cymro ydw i, ond dw i'n credu bod rhaid beidio â gwastraffu amser ag egni ar adfywio'r Gernyweg. Mae well i bobl Gernyw siarad y Gymraeg, dw i'n meddwl.
Pam ddylent nhw gan nid Cymry ydyn nhw? Cwestiwn da iawn! Roedd Rheged yn wahanol â Dyfed (ond nid i'r Sais).
Dydw i ddim yn awgrymu peidio â DYSGU Cernyweg Canol, er mwyn darllen chwedlau, er enghraifft. Mae'r Gymraeg Canol, gyda llaw, yn debycach i'r Gernyweg a Llydaweg (SVO vs. VSO).
Ond nawr does dim rhaid adwywio'r Gymraeg, neu dewis orgraff, neu sefydlu teledu ayyb. Mae rhaid dim ond dysgu a siarad yr iaith.
Gall Cymraeg (a Llydaweg) defnyddio amser ag egni, hefyd.

Re: Cernyweg/Kernewek

PostioPostiwyd: Llun 03 Maw 2008 12:03 am
gan nicdafis
http://ylow.blogspot.com/2007/12/tam-ke ... rnish.html

Albym feinyl o'r 70au wedi rhwygo i MP3. Wedi bod yn gwrando ar hyn heno. Difyr iawn.