Wel, ne gomzan ket ar vrezhoneg, siwazh. Mae llawer o bobl, yn arbennig yn yr Alban, sy'n credu bod ceisio cadw Gaeleg yn fyw yn wastraff amser, gan nad oes ond rhyw 60,000 o bobl sy'n ei siarad, o fewn poblogaeth o ryw 6 miliwn yn yr Alban, h.y. efallai 1%. Ac yna:-
"Mae 40000 yn siarad hornjoserbska rěč, a tua 15000 - dolnoserbšćina."
h.y. llai na 60,000 - o fewn poblogaeth o dros 60 miliwn yn yr Almaen! "Gad iddyn fwyta teisen" (Marie Antoinette), h.y. mae'r iaith bron marw, paid a'i hadfywio, os am siarad rhywbeth yn hytrach nag Almaeneg, yna dewis Pwyleg. Mewn effaith, dyna beth rwyt ti'n ddweud wrth y Cernywiaid - "Iaith farw ydy hi - dewis Gymraeg yn ei lle". Dim siawns am hynny! 'Sai hynny'n debyg i bobl Dulyn yn dewis siarad Islandeg, gan fod y ddinas 'na yn nwylo'r Feicingiaid ar un adeg.
Ac, wrth gwrs, gan fod Sbaeneg, Gwyddeleg, Rwsieg, Wrdw, Groeg, Ffrangeg, Daneg ayb i gyd wedi dod o'r un gwreiddyn, dim ond tafodieithoedd ydyn nhw a dylem ni i gyd beidio a'u siarad ac yn troi at, wel, at be? Ffarsi?
Lladin? Gotheg? Cernyweg Canol? Tosk? Esperanto? Neu fallai dylai pobl Gorllewin Ewrop i gyd fabwysiadu Euskera...
Mae ieithoedd yn newid drwy amser, yn datblygu, yn ehangu, yn diflannu, ac nid oes i ni ddweud be dylai neu na ddylai gael ei siarad yn unman. Un peth ydy hybu iaith, peth arall ydy gorfodi iaith.