Cernyweg/Kernewek

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Cernyweg/Kernewek

Postiogan Gwenci Ddrwg » Sad 29 Maw 2008 1:47 am

Dwi newydd feindio sdyff am Gernyweg yn fy mhrifysgol, jest wrth y llyfrau Cymraeg yn y llyfrgell. Dwi'n anghofio be oedd 'na yn union (ro'n i'n chwilio am rhywbeth arall) ond dwi'n siwr bod o leiaf un llyfr gramadeg ar gael, os wyt ti eisiau talu big bucks i ddod yma. :D
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Re: Cernyweg/Kernewek

Postiogan Seonaidh/Sioni » Sad 29 Maw 2008 8:02 pm

I blydi Doronto? Dyna big bucks wir! Tybed mai un o weithiau Robert Nance Morton oedd o.

Gyda llaw, tipyn off-pwnc ond efallai o ddidordeb i'r Canadiaid yn ein mysg, a wyddost ti mai Canada oedd y wlad gyntaf lle bu cais am gael iaith Geltaidd fel iaith swyddogol? Fe'i fudwyd gan ryw aelod o Senedd Ganada - i gael Gaeleg fel iaith swyddogol yn ogystal a Saesneg a Ffrangeg, gan fod cymaint o bobl Nova Scotia'n ei siarad ar y pryd. Ond, yn anffodus, methodd - ac erbyn hyn mae efallai mil o bobl yn unig sy'n dal i siarad Gaeleg yn Nova Scotia. Erbyn hyn mae na fwy o bobl sy'n siarad Manaweg yn Ynys Manaw, tua 1500 rw i'n credu (Cyfrif 2001) - sy'n rhan fwy o'r boblogaeth na sy'n siarad Gaeleg yn yr Alban.

Sut mae'r Gernyweg yn mynd y dyddiau ma? Ymddengys nad oes pentwr o Gernyweg ar wefan Cyngor Sir Cernyw (ond mae 'na dipyn) ac bod 'na ryw drafferth am sillafu'r iaith sy'n cael ei drwsio ar hyn o bryd. Gobeithio byddwn ni'n gweld rhagor o Gernyweg yn sgil hyn.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Cernyweg/Kernewek

Postiogan Gwenci Ddrwg » Iau 03 Ebr 2008 1:50 pm

Gyda llaw, tipyn off-pwnc ond efallai o ddidordeb i'r Canadiaid yn ein mysg, a wyddost ti mai Canada oedd y wlad gyntaf lle bu cais am gael iaith Geltaidd fel iaith swyddogol? Fe'i fudwyd gan ryw aelod o Senedd Ganada - i gael Gaeleg fel iaith swyddogol yn ogystal a Saesneg a Ffrangeg, gan fod cymaint o bobl Nova Scotia'n ei siarad ar y pryd.

Creda fi dwi wedi gwybod hynny ers blynyddoedd, ond mae pawb arall yn hollol anwybodus amdani. Ac roedd 'na mwy 'na un talaith 'da lot o siaradwyr, yn Ontario roedd nifer o bobl yn siarad Gaeleg yn y de (Glengarry Country i fod yn union amdani). Hyd yn oed heddiw ti'n gallu ffeindio cylch bach ohonynt os wyt ti'n gwybod lle i chwilio yn Nhoronto ond fel arfer maen nhw'n cael ei anghofio gan y byd tu allan:

http://www.torontogaelic.ca/

ac erbyn hyn mae efallai mil o bobl yn unig sy'n dal i siarad Gaeleg yn Nova Scotia. Erbyn hyn mae na fwy o bobl sy'n siarad Manaweg yn Ynys Manaw, tua 1500 rw i'n credu (Cyfrif 2001)

Ar Ynys Manaw, tua 1700-1800 ar hyn o bryd ond sgen i ddim nifer union...exponential growth neu rhywbeth. :lol:
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Re: Cernyweg/Kernewek

Postiogan Cynfael » Mer 22 Rhag 2010 2:42 pm

Oes bobl yn siarad yn Gernyweg ar y bwrdd ar hyn o bryd 'ma?
Rhithffurf defnyddiwr
Cynfael
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 31
Ymunwyd: Mer 22 Rhag 2010 2:30 pm
Lleoliad: Caer, Lloegr

Re: Cernyweg/Kernewek

Postiogan Gwenci Ddrwg » Gwe 14 Ion 2011 3:24 am

Wel dim rili, dyddiau 'ma 'sdim unrhywun sy'n siarad Cymraeg.

Fi oedd y person diwedda' i bostio yn y bwnc 'ma...yn 2008(!).
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Re: Cernyweg/Kernewek

Postiogan Cynfael » Sad 15 Ion 2011 4:32 pm

Wel anffodus y byd yn ddim yn llawn o siaradwyr Cernyweg! felly mae'n dda i siarad gyda unrhyw! Fe es i i Brifysgol yn Aberystwyth a mae nhw yn addysgu Llydaweg yn unig i'r siaradwyr Cymraeg oherwydd nid oes mwy o ddefnydd ymarferol gyda Gernyweg.

Mae'n diddorol i gwylio'r cynyddol ymwybyddiaeth gyda'r iaith. Siwr, yn unig ddau mil o bobl wybod yr iaith ond y mwy bobl yn meddwl na mae'n pwysig i cadw, yn y diwedd fydd yr iaith yn fod pwysig ym Mhrydain fel Cymraeg neu Gaeleg. Fydda i ysgrifennu ar y census yn blwyddyn hwn rwy'n siaradwr Cernyweg!
Rhithffurf defnyddiwr
Cynfael
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 31
Ymunwyd: Mer 22 Rhag 2010 2:30 pm
Lleoliad: Caer, Lloegr

Re: Cernyweg/Kernewek

Postiogan mongvras » Mer 11 Ebr 2012 5:13 pm

Dwi yma weithiau, ond dwi ddim mor gysylltiegig â'r mudiad iaith y dyddiau hyn fel gynt.
mongvras
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 22
Ymunwyd: Gwe 10 Meh 2005 8:37 pm
Lleoliad: Cernyw

Nôl

Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron