Gyda llaw, tipyn off-pwnc ond efallai o ddidordeb i'r Canadiaid yn ein mysg, a wyddost ti mai Canada oedd y wlad gyntaf lle bu cais am gael iaith Geltaidd fel iaith swyddogol? Fe'i fudwyd gan ryw aelod o Senedd Ganada - i gael Gaeleg fel iaith swyddogol yn ogystal a Saesneg a Ffrangeg, gan fod cymaint o bobl Nova Scotia'n ei siarad ar y pryd.
Creda fi dwi wedi gwybod hynny ers blynyddoedd, ond mae pawb arall yn hollol anwybodus amdani. Ac roedd 'na mwy 'na un talaith 'da lot o siaradwyr, yn Ontario roedd nifer o bobl yn siarad Gaeleg yn y de (Glengarry Country i fod yn union amdani). Hyd yn oed heddiw ti'n gallu ffeindio cylch bach ohonynt os wyt ti'n gwybod lle i chwilio yn Nhoronto ond fel arfer maen nhw'n cael ei anghofio gan y byd tu allan:
http://www.torontogaelic.ca/ac erbyn hyn mae efallai mil o bobl yn unig sy'n dal i siarad Gaeleg yn Nova Scotia. Erbyn hyn mae na fwy o bobl sy'n siarad Manaweg yn Ynys Manaw, tua 1500 rw i'n credu (Cyfrif 2001)
Ar Ynys Manaw, tua 1700-1800 ar hyn o bryd ond sgen i ddim nifer union...exponential growth neu rhywbeth.