gan Gwahanglwyf Dros Grist » Maw 02 Rhag 2008 8:55 am
[quote="Seonaidh/Sioni"]Ddyfnallt Ddeuawd - rw i'n sicr dy fod yn iawn: be dy "statws iaith cyd-swyddogol" yn union? Ga i ddefnyddio ieithoedd megis Cymraeg, Euskera, Català ac ati yn yr UE yn lle Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg ac ymlaen os dwisho?[/quote]
Fe gei di, os wyt ti'n dymuno gwneud hynny, gysylltu â'r Comisiwn Ewropeaidd (neu unrhyw un o gyrff eraill yr Undeb Ewropeaidd) drwy gyfrwng y Gymraeg, Euskara neu Gatalà, ac mae'n rhaid i'r cyrff hynny ateb yn dy iaith di. Hefyd, fe gaiff gweinidogion cyrff datganoledig y gwledydd hynny gyfrannu at gyfarfodydd cyrff fel Pwyllgor y Rhanbarthau yn eu hiaith eu hunain. Fodd bynnag, does dim hawl gan ASEau gyfrannu at y cyfarfod llawn na chael dogfennau swyddogol etc yn eu hiaith eu hunain. Dyna yw statws cyd-swyddogol.
I think I'll call myself Donald Twain.