Tudalen 1 o 2

Gwyddeleg wedi cael statws swyddogol yn Ewrop

PostioPostiwyd: Llun 13 Meh 2005 1:16 pm
gan Y Gwyddel
O'r ffacin diwedd! - Lot o bobol wedi bod yn brwydro am hwnna ers i ni (Iwerddon) ymuno'r EU yn 1973

Gweld hwnna am fwy:

http://www.rte.ie/news/2005/0613/irishlanguage.html

neu

http://www.irishexaminer.com/breaking/s ... 9519236&x=

PostioPostiwyd: Llun 13 Meh 2005 1:44 pm
gan Tegwared ap Seion
da iawn 'nde!

be 'di sefyllfa y Gymraeg lle ma petha fel hyn yn y cwesdiwn?

PostioPostiwyd: Llun 13 Meh 2005 3:04 pm
gan Ray Diota
Tegwared ap Seion a ddywedodd:da iawn 'nde!

be 'di sefyllfa y Gymraeg lle ma petha fel hyn yn y cwesdiwn?


Hy, be ti'n meddwl? Da ni'm hyd yn oed yn wlad swyddogol...

trueni

PostioPostiwyd: Mer 29 Meh 2005 6:06 am
gan Tyrthwr
trueni nad oes statws go iawn yn yr iwerddon gyda'r iaith. hynny yw ar lefel go iawn yn y bywyd pob dydd.

PostioPostiwyd: Iau 22 Meh 2006 1:17 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Tegwared ap Seion a ddywedodd:da iawn 'nde!

be 'di sefyllfa y Gymraeg lle ma petha fel hyn yn y cwesdiwn?


Mae trafodaeth yn mynd rhagddi ar hyn o bryd yn y Cynulliad ynghylch caniatáu i'r Gymraeg gael ei defnyddio ym mhwyllgorau Senedd Ewrop, ond nid yn y Siambr ei hun. Gwyliwch os yw S4C 2 gyda chi.

Re: Gwyddeleg wedi cael statws swyddogol yn Ewrop

PostioPostiwyd: Sad 29 Tach 2008 3:59 am
gan Gwenci Ddrwg
Diddorol, ond be oedd pawb yn yr ystafell yn meddwl amdani? Oeddwn nhw'n ei nabod hi fel y Gymraeg? Tybiwn nad oes gynnon nhw unrhyw syniad oedd 'na iaith Gymreig yn y lle cyntaf. 8) "Rhyw dafodiaith leol o Fflemeg nac oedd?"

Re: Gwyddeleg wedi cael statws swyddogol yn Ewrop

PostioPostiwyd: Sul 30 Tach 2008 9:24 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Gwenci Ddrwg a ddywedodd:Diddorol, ond be oedd pawb yn yr ystafell yn meddwl amdani? Oeddwn nhw'n ei nabod hi fel y Gymraeg? Tybiwn nad oes gynnon nhw unrhyw syniad oedd 'na iaith Gymreig yn y lle cyntaf. 8) "Rhyw dafodiaith leol o Fflemeg nac oedd?"


Maen nhw wedi hen arfer a chyfieithu ar y pryd. Fydden i'n meddwl mai gwrando ar eu clustffonau yn ol yr arfer wnaethon nhw.

Re: Gwyddeleg wedi cael statws swyddogol yn Ewrop

PostioPostiwyd: Llun 01 Rhag 2008 9:46 am
gan Seonaidh/Sioni
Wel, mae na ryw fath o statws swyddogol i'r Aeleg yn Senedd yr Alban, ond credaf i fod rhaid i neb sy eisiau siarad Gaeleg yn y siambr roi sylw o'r blaen i'r llu cyfieithu. Rp'n i'n siarad efo athrawes Gaeleg yn ddiweddar ac newydd gael summons i'r Senedd roedd hi er mwyn gwneud tipyn o waith cyfieithu ar y pryd.

Am Wyddeleg, pan ymunodd Iwerddon a'r UE (neu CEE o'i blaen) dylsen nhw wedi mynnu cael Gwyddeleg fel iaith swyddogol Ewrop, ond wnaethon nhw ddim ar y pryd. Felly, dyna wlad annibynnol heb ei hiaith ei hun yn iaith swyddogol Ewrop (gobeithio bod hyn newydd newid) tra fod ieithoedd heb wlad annibynnol, fel Català ac Euskera, yn ieithoedd swyddogol Ewrop. Gobeithio bydd Cymraeg a Gaeleg yn eu hymuno yn y man.

Re: Gwyddeleg wedi cael statws swyddogol yn Ewrop

PostioPostiwyd: Llun 01 Rhag 2008 12:19 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Wel, mae na ryw fath o statws swyddogol i'r Aeleg yn Senedd yr Alban, ond credaf i fod rhaid i neb sy eisiau siarad Gaeleg yn y siambr roi sylw o'r blaen i'r llu cyfieithu. Rp'n i'n siarad efo athrawes Gaeleg yn ddiweddar ac newydd gael summons i'r Senedd roedd hi er mwyn gwneud tipyn o waith cyfieithu ar y pryd.

Am Wyddeleg, pan ymunodd Iwerddon a'r UE (neu CEE o'i blaen) dylsen nhw wedi mynnu cael Gwyddeleg fel iaith swyddogol Ewrop, ond wnaethon nhw ddim ar y pryd. Felly, dyna wlad annibynnol heb ei hiaith ei hun yn iaith swyddogol Ewrop (gobeithio bod hyn newydd newid) tra fod ieithoedd heb wlad annibynnol, fel Català ac Euskera, yn ieithoedd swyddogol Ewrop. Gobeithio bydd Cymraeg a Gaeleg yn eu hymuno yn y man.


Nadyn. Mae ganddyn nhw'r un statws â'r Gymraeg, sef statws iaith gyd-swyddogol.

Re: Gwyddeleg wedi cael statws swyddogol yn Ewrop

PostioPostiwyd: Llun 01 Rhag 2008 11:43 pm
gan Seonaidh/Sioni
Ddyfnallt Ddeuawd - rw i'n sicr dy fod yn iawn: be dy "statws iaith cyd-swyddogol" yn union? Ga i ddefnyddio ieithoedd megis Cymraeg, Euskera, Català ac ati yn yr UE yn lle Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg ac ymlaen os dwisho?