Tudalen 2 o 2

Re: Gwyddeleg wedi cael statws swyddogol yn Ewrop

PostioPostiwyd: Llun 01 Rhag 2008 11:43 pm
gan Seonaidh/Sioni
Ddyfnallt Ddeuawd - rw i'n sicr dy fod yn iawn: be dy "statws iaith cyd-swyddogol" yn union? Ga i ddefnyddio ieithoedd megis Cymraeg, Euskera, Català ac ati yn yr UE yn lle Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg ac ymlaen os dwisho?

Re: Gwyddeleg wedi cael statws swyddogol yn Ewrop

PostioPostiwyd: Maw 02 Rhag 2008 5:51 am
gan Gwenci Ddrwg
Felly, dyna wlad annibynnol heb ei hiaith ei hun yn iaith swyddogol Ewrop

Iaith swyddogol di hi, ers sbel bach eisoes. Dwi'n methu deall dy bwynt.

Re: Gwyddeleg wedi cael statws swyddogol yn Ewrop

PostioPostiwyd: Maw 02 Rhag 2008 8:55 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
[quote="Seonaidh/Sioni"]Ddyfnallt Ddeuawd - rw i'n sicr dy fod yn iawn: be dy "statws iaith cyd-swyddogol" yn union? Ga i ddefnyddio ieithoedd megis Cymraeg, Euskera, Català ac ati yn yr UE yn lle Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg ac ymlaen os dwisho?[/quote]

Fe gei di, os wyt ti'n dymuno gwneud hynny, gysylltu â'r Comisiwn Ewropeaidd (neu unrhyw un o gyrff eraill yr Undeb Ewropeaidd) drwy gyfrwng y Gymraeg, Euskara neu Gatalà, ac mae'n rhaid i'r cyrff hynny ateb yn dy iaith di. Hefyd, fe gaiff gweinidogion cyrff datganoledig y gwledydd hynny gyfrannu at gyfarfodydd cyrff fel Pwyllgor y Rhanbarthau yn eu hiaith eu hunain. Fodd bynnag, does dim hawl gan ASEau gyfrannu at y cyfarfod llawn na chael dogfennau swyddogol etc yn eu hiaith eu hunain. Dyna yw statws cyd-swyddogol.

Re: Gwyddeleg wedi cael statws swyddogol yn Ewrop

PostioPostiwyd: Maw 02 Rhag 2008 8:56 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Gwenci Ddrwg a ddywedodd:
Felly, dyna wlad annibynnol heb ei hiaith ei hun yn iaith swyddogol Ewrop

Iaith swyddogol di hi, ers sbel bach eisoes. Dwi'n methu deall dy bwynt.


Edrych ar ddyddiad y neges wreiddiol. Fi sydd wedi atgyfodi edefyn.

Re: Gwyddeleg wedi cael statws swyddogol yn Ewrop

PostioPostiwyd: Maw 02 Rhag 2008 6:46 pm
gan Seonaidh/Sioni
Diolch am hynny. Felly, mae "cyd-swyddogol", efallai, fel "hanner-swyddogol".

Re: Gwyddeleg wedi cael statws swyddogol yn Ewrop

PostioPostiwyd: Mer 03 Rhag 2008 3:59 am
gan Gwenci Ddrwg
Edrych ar ddyddiad y neges wreiddiol. Fi sydd wedi atgyfodi edefyn.

Mae'r neges wreiddiol o 2005- am sut oedd Gwyddeleg newydd gael statws swyddogol ar y pryd. Mae Sionaidh newydd ddweud dydd yn ol nad oes gynni hi statws swyddogol, a chollodd o fi yn hollol. :ofn: Sori os dwi'n ymddangos yn hurt ond dwi'n siwr mod i wedi methu rhywbeth.

Re: Gwyddeleg wedi cael statws swyddogol yn Ewrop

PostioPostiwyd: Mer 03 Rhag 2008 9:18 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Gwenci Ddrwg a ddywedodd:
Edrych ar ddyddiad y neges wreiddiol. Fi sydd wedi atgyfodi edefyn.

Mae'r neges wreiddiol o 2005- am sut oedd Gwyddeleg newydd gael statws swyddogol ar y pryd. Mae Sionaidh newydd ddweud dydd yn ol nad oes gynni hi statws swyddogol, a chollodd o fi yn hollol. :ofn: Sori os dwi'n ymddangos yn hurt ond dwi'n siwr mod i wedi methu rhywbeth.


Sôn am y Gymraeg oedd Sioni, nid y Wyddeleg.

Re: Gwyddeleg wedi cael statws swyddogol yn Ewrop

PostioPostiwyd: Iau 04 Rhag 2008 6:07 pm
gan Gwenci Ddrwg
Ah, dwi'n deall rwan.

Ond nid gwlad annibynnol ydy Cymru, felly yn naturiol ro'n i'n meddwl oedd hi'n son am Wyddeleg.

Felly, dyna wlad annibynnol heb ei hiaith ei hun yn iaith swyddogol Ewrop