Bobl
Yn fy marn innau:
albanaidd = scottish
sgoteg (a "scoteg" hefyd falle?) = scots (language)
geiriau saesneg eraill am "scots":
lallans, lowland scots, ayb.
dwi'n meddwl mai ystyr tipyn bach yn wahanol sydd i "Doric". tafodiaith neu rywbeth.
a mae tafodieithoedd eraill i'r sgoteg hefyd, ond sain cofio'r enwau'n union. ond yn perthyn i lefydd fel gogledd-ddwyrain yr alban ac ynysoedd sydd i'r gogledd o sutherland maen nhw.
"ullans" yw un o'r tafaodieithoedd 'ny, sef "saesneg" wlster.
"albanig" dwi eithaf sicr yw "albanian" (nid iaith)
"albaneg" dwi YN sicr yw "albanian" (iaith)
mae rhai yn ceisio gwneud pwynt gwleidyddol drwy ddweud/honi mai gaeleg yw iaith yr alban (yn yr ystyr "THE language of scotland).
"gaeleg" / "yr aeleg" = gaelic / scottish gaelic / scots gaelic
dwi'n anghytuno fod "albaneg" HEFYD yn golygu "lallans / lowland scots".
(se rhaid i fi ail-jeco hwn i fod yn siwr, ond dwi YN siwr bod "albaneg" yn golygu "albanian".)
mae sawl safle gwe yn cyfeirio at yr "albaneg".
rhai'n siarad amdano fel tase fe'n "gaeleg" ac eraill fel tsae fe'n "lallans".
http://www.estelnet.com yn dweud ....albaneg (gaeleg)
morfablog.com/archifau/2002/06/11/albaneg_arlein.html
yn dweud ....albaneg (lallans) ("saesneg yr alban")(lowland scots)
gweler GPC a Geiriadur yr Academi.
T