gan Nei » Gwe 17 Chw 2006 12:00 pm
newydd weld yr edefyn ma, sori, mod i heb ei weld yn gynt, trafodaeth ddidorol iawn ma rhaid gweud, o'n sdafbwynt i yn amlwg, gan bod mam yn llydawes a ymgyrchodd gryn dipyn yn y saithdegau a threulio tridie mewn carchar. Fe gafodd hi ei harestio am fod yn olygydd cylchgrawn i Llydaweg i blant a oedd yn cynnwys cartwnau, roedd Llywdroaeth Ffrainc yn ei chyhuddo o basio negeseuon cod drwy gartwnau llydaweg i derfysgwyr! 'Wannig a Wennig' wu'n credu oedd enw'r cylchgrawn ond sai'n siwr ar y sillafiad.
Roedd mam hefyd yn brifathrawes ar yr ysgol gynradd Diwan gyntaf i agor mewn swyddfa yn neuadd bentref Lampaul Guimmiliau(wy'n credu, mae angen i fi siarad amam i wirio hwnna) ac roedd tri o ddisgyblion gyda hi bryd hynny, mae'r ffordd y mae'r ysgolion Diwan wedi tyfu yn weddol galonogol, er bod diffyg arian a chefnogaeth gan Lywodraeth Paris yn broblem. Mae'n rhaid i fi fod yn onest drwy weud fy mod i'n cael cyfnodau gobeithiol o safbwynt dyfodol y llydaweg, yn ogystal a nifer o adegau lle rwy'n digalonni'n llwyr oherwydd pethau fel agweddau a gwethredoedd llywodraeth Paris yn ogystal a'r tueddiadau (tebyg iawn iGymru) o ddadlau'n fewnol a pheidio gwerthfawrogi gwerth diwylliannol a threftadol y Llydaweg. Serch ny, mae'r elfen Geltaidd yn hynod gryf yn Llydaw, bron mor gryf ag Iwerddon weden i ac felly mae'r llydawyr yn teimlo hunaiaeth Lydewig, sydd falle galle bod yn ddefnyddiol os yw'r Llydaweg am adennill tir. Ochr arall y geiniog yw fod yr hunaniaeth ma ddim yn mynd yn ddyfnach na cherddoriaeth werin y Bombard a'r Binoiou a meddwi mewn fest noz, a bod Llydaw'n prysur droi i fod fel Iwerddon(ond heb fawr o bwer hunalywodraethol) lle mae guinness a'r delyn yn symbolau cryf ond lle mae'r wyddeleg ar ei thin.