Llydaweg

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan gronw » Mer 13 Gor 2005 12:04 am

Macsen a ddywedodd:Erthygl am y Llydaweg yn Tafod Cymdeithas yr Iaith Steddfod yma.

cwl!

yn anffodus nes i ddim deall y llydaweg :(
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 7:12 pm

Postiogan sanddef » Mer 13 Gor 2005 10:27 am

Macsen a ddywedodd:Eman da zont ar yezh en arvar!


Eman = Yma
da =i
zont =?
ar yezh =yr iaith
en arvar =yn arfer (ymarfer)

Dim ond dyfalu ond rhaid cofio fod y Llydaweg yn chwaer i'r Gymraeg.

Brezhoneg=Brythoneg
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Cawslyd » Mer 13 Gor 2005 9:03 pm

gronw a ddywedodd:jyst y lleiafrif "cenedlaetholgar" sy'n ddigon eithafol i siarad eu hiaith eu hunain yn gyhoeddus a'i phasio ymlaen i'w plant :?

Nytars. :?

Fues i'n Llydaw llynedd, ni glywis i ddim o'r Lydaweg, ond ges i sgwrs ddiddorol efo hen ddyn (50-60au) oedd yn trio gwerthu ei amgueddfa i ni, oedd yn deud fod ei rieni wedi siarad y Vrezhoneg efo'i gilydd, ond La Francais efo fynta a'i chwaer. Roedd ei chwaer wedi ceisio dysgu'r iaith, a hithau yn ei phumdegau, dwi'n cymryd, ond yn ffeindio hi'n anodd i gael hyd i rywun i ymarfer efo. Doedd y dyn ddim am ddysgu y Lydaweg, roedd o'n dweud fod y tafodieithoedd yn rhy wahanol, a bod y 'Standard Breton' a grewyd i'w dysgu yn "amhur".
Cawslyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1832
Ymunwyd: Mer 09 Meh 2004 6:43 pm

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Mer 13 Gor 2005 9:26 pm

Profiadau digon gwahanol o Lydaw (a Llydaweg) sydd gen i. Gan fy mod wedi fy magu i ddawnsio gwerin (ia, ia) mi ges i'r fraint o gael fy mhasbort fy hun pan yn 4 oed a mynd i wyl Lorient :)

Ers hynny, 'dwi wedi bod yn ôl dair/bedair gwaith, ac wedi bod yn ffodus i gael aros efo teuluoedd Llydewig Llydaweg (!) ddwywaith. Ffrindiau coleg Dad ydyn nhw - y ddau yn Llydawyr rhonc ac yn rhugl yn y Gymraeg!!

Roedd 5 o blant yn un o'r teuluoedd - i gyd yn mynd i'r ysgol Lydewig, Diwan, sydd os dwi'n cofio'n iawn yn ysgol elusennog??? (cywirwch fi os dwi'n anghywir) ac yn sdryglo i oresgyn popeth oedd yn ei herbyn (neu mi oedd hi, p'run bynnag). Roedd y plant hynnaf hefyd yn chwarae offerynnau traddodiadol Llydaw (y bombard, a'r binou bras)...

Gethon ni wythnos bach neis yn y garafan - yn yr ardd am wythnos, efo'r ddafad, yr afr, yr ieir, y tatws, y tomatos, a pha bynnag fwydydd eraill oedden nhw'n ei dyfu), a Llydaweg a Chymraeg oedd yn cael ei siarad rownd y bwrdd amser bwyd.

Un peth dwi'n gofio'n glir ydi'r noson pan gynnigiodd Padrig (y Llydawr) win i Dad (yn Gymraeg) - "Gwin gwyn, neu win coch"?...a chyn i Dad gael amser i ateb mi ruodd y plant i gyd - chwerthin lond eu boliau... achos -->

gwin - swnio fel y gair am win yn Llydaweg
gwyn - swinio fel y gair am wyn y Llydaweg (gwen)
coch - swnio fel y gair Llydewig am CACHU!...

"So, Sir, would you like white wine, or shite wine tonight?!"

Dwi'n teimlo'n andros o lwcus i fod wedi cael gweld y "Llydaw" yma...dim ond rwan ydwi'n sylweddoli pa mor anodd ydi gweld y math yma o Lydaw o gwbl.
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Norman » Iau 02 Chw 2006 1:02 pm

Wedi sbotio dau eiridur Cymraeg > Llydaweg ar ibe - Rhyw foi o Gaernarfon yn eu gwerthu
ibe & ibe
Mae gan y ddau tua wythnos ar
allan o afal dy gyrraedd dychmygol
|
Chwyliwch amdanai ar Flickr, YouTube, Ebay, Facebook, MySpace, Fotopic & Strydoedd Caerdydd!
Rhithffurf defnyddiwr
Norman
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1335
Ymunwyd: Mer 10 Medi 2003 6:44 pm
Lleoliad: Porthmadog/Caerdydd

Postiogan erwan » Iau 16 Chw 2006 10:23 pm

sanddef rhyferys a ddywedodd:
Macsen a ddywedodd:Eman da zont ar yezh en arvar!


Eman = Yma
da =i
zont =?
ar yezh =yr iaith
en arvar =yn arfer (ymarfer)

Dim ond dyfalu ond rhaid cofio fod y Llydaweg yn chwaer i'r Gymraeg.

Brezhoneg=Brythoneg


Nid "Eman da zont ar yezh arvar !" ond "Ema
erwan
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 16
Ymunwyd: Mer 24 Rhag 2003 8:56 pm
Lleoliad: Breizh

Postiogan sian eirian » Iau 16 Chw 2006 11:45 pm

Erwan:

Den bras ar lavarez Breizhoneg?

:D :D :D

Parthed sylwadau Gronw uchod ynglyn a'r gwahaniaeth enbyd rhwng y genhedlaeth hyn a'r genhedlaeth iau, mae na stori drist iawn i'w hadrodd rywdro am effaith Crwydro Llydaw (Bebb) ar hyn i gyd. Fe ochrodd llawer o genedlaetholwyr Llydaw gyda'r Almaenwyr (gyda'r addewid o ryddid ar ddiwedd y rhyfel). Cyfieithwyd Crwydro Llydaw a'i ddefnyddio i erlyn arweinwyr Llydewig. Saethwyd bron i ddwy fil; DWY FIL. Dyna pam y trodd cenhedlaeth gyfan eu cefnau ar y Lydaweg.

Ond, mae'n stori drist iawn, rhy drist i'w hadrodd yma.

Ddaeth na sianel deledu Lydaweg yn y diwedd?
sian eirian
Cerdyn Coch
Cerdyn Coch
 
Negeseuon: 118
Ymunwyd: Iau 26 Ion 2006 10:39 pm
Lleoliad: BANGOR

Postiogan Mabon » Gwe 17 Chw 2006 11:10 am

Mi oni yn ddigon lwcus i gael gwersi Llydaweg ym Mangor ryw dair mlynadd yn ol a mi oddan ni yn cael dipyn o hanes y wlad hefyd. Adag hynny doedd na ddim sianel Lydaweg ar y teledu, dim ond ychydig oriau o ddarlledu ar sianel ffrangeg. Ddim yn siwr os di hynny di newid erbyn heddiw?!
Mi ddaeth na griw o lydawyr ifanc draw...a fel udodd rhywun yn gynharach yr ifanc sydd yn siarad llydaweg ar hyn o bryd ond dim ond drwy wersi yn y lydaweg yn y DIWAN. Ffrangeg oedd eu iaith nhw adra.
Mabon
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 15
Ymunwyd: Iau 04 Tach 2004 12:30 pm

Postiogan Nei » Gwe 17 Chw 2006 12:00 pm

newydd weld yr edefyn ma, sori, mod i heb ei weld yn gynt, trafodaeth ddidorol iawn ma rhaid gweud, o'n sdafbwynt i yn amlwg, gan bod mam yn llydawes a ymgyrchodd gryn dipyn yn y saithdegau a threulio tridie mewn carchar. Fe gafodd hi ei harestio am fod yn olygydd cylchgrawn i Llydaweg i blant a oedd yn cynnwys cartwnau, roedd Llywdroaeth Ffrainc yn ei chyhuddo o basio negeseuon cod drwy gartwnau llydaweg i derfysgwyr! 'Wannig a Wennig' wu'n credu oedd enw'r cylchgrawn ond sai'n siwr ar y sillafiad.

Roedd mam hefyd yn brifathrawes ar yr ysgol gynradd Diwan gyntaf i agor mewn swyddfa yn neuadd bentref Lampaul Guimmiliau(wy'n credu, mae angen i fi siarad amam i wirio hwnna) ac roedd tri o ddisgyblion gyda hi bryd hynny, mae'r ffordd y mae'r ysgolion Diwan wedi tyfu yn weddol galonogol, er bod diffyg arian a chefnogaeth gan Lywodraeth Paris yn broblem. Mae'n rhaid i fi fod yn onest drwy weud fy mod i'n cael cyfnodau gobeithiol o safbwynt dyfodol y llydaweg, yn ogystal a nifer o adegau lle rwy'n digalonni'n llwyr oherwydd pethau fel agweddau a gwethredoedd llywodraeth Paris yn ogystal a'r tueddiadau (tebyg iawn iGymru) o ddadlau'n fewnol a pheidio gwerthfawrogi gwerth diwylliannol a threftadol y Llydaweg. Serch ny, mae'r elfen Geltaidd yn hynod gryf yn Llydaw, bron mor gryf ag Iwerddon weden i ac felly mae'r llydawyr yn teimlo hunaiaeth Lydewig, sydd falle galle bod yn ddefnyddiol os yw'r Llydaweg am adennill tir. Ochr arall y geiniog yw fod yr hunaniaeth ma ddim yn mynd yn ddyfnach na cherddoriaeth werin y Bombard a'r Binoiou a meddwi mewn fest noz, a bod Llydaw'n prysur droi i fod fel Iwerddon(ond heb fawr o bwer hunalywodraethol) lle mae guinness a'r delyn yn symbolau cryf ond lle mae'r wyddeleg ar ei thin.
Rhithffurf defnyddiwr
Nei
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 235
Ymunwyd: Llun 27 Hyd 2003 6:37 pm
Lleoliad: Pontypridd

Postiogan Nei » Gwe 17 Chw 2006 12:05 pm

I ateb dy gwestiwn di Sian Eirian, mae yna sianel 'cabel'/lloeren breifat(Gan nad yw'r llywodraeth am roi arian na sianel i'r Llydaweg(ddim dros fedd Chirac, pan fydd hwnnw wedi mynd!) o'r enw TV Breizh. Fe ddechreuodd y sianell yn addawol ac fe fues i ar brofiad gwaith yno, yna fe ddaeth popeth llydaweg i ben a dyma nhw jyst yn chwre 'repeats' murder she wrote yn ffrangeg ar y sianell, erbyn hyn, mae'n nhw'n dal i 'chware murder She wrote' ac 'Inspector Derrick' ond wedi eu dybio i'r Llydaweg, sy'n brofiad go swreal(Mae gan mam a dad deledu lloeren sy'n derbyn TV Breizh) a gweud y lleia, ond pleserus iawn o weld fod Y llydaweg yn adennill rhywfaint o ddenfydd a stratws. Mae'n debyg taw'r gobaith i'r dyfodol yw i ailadeiladu'r sianell a'r arlwy lydaeg y mae'n ei gynnig gan anelu i ailsefydlu'r newyddion yn Llydaweg, a oedd yn digwydd yn ddyddiol ar un adeg.
Rhithffurf defnyddiwr
Nei
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 235
Ymunwyd: Llun 27 Hyd 2003 6:37 pm
Lleoliad: Pontypridd

NôlNesaf

Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron