gan Hogyn o Rachub » Sad 18 Chw 2006 10:43 pm
Roedd 1.6 miliwn o bobl yn siarad Llydaweg ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. Amcangyfrifiad mai tua 250,000 sydd ar ol erbyn hyn: gostyngiad o 84% mewn ychydig dros ganrif (dros dwbl y gostyngiad yng Nghymru).
Mi wnes i brosiect ar y Lydaweg i'm cwrs Ffrangeg Lefel A yn 'rysgol, mae o 'mlaen i rwan, ac er gwaith caled mudiad Diwan ac ati, mae'n edrych yn ddu iawn ar yr iaith ar y cyfan. Er enghraifft, yn Brezhon Izel (Llydaw Isaf), sef hen gadarnleoedd yr iaith, mae canran uchel iawn iawn o bobl dros 70 yn medru'r iaith, ond dim ond 3.5% o'r boblogaeth o dan 15 sy'n ei medru (nid ffigyrau swyddogol mo'r rhain, cofiwch, ond synnwn i ddim petawn nhw'n frawychus o adlewyrchiadol).
Mae'r tueddiad wedi bod ers hanner ffordd drwy'r ganrif ddiwethaf bod neiniau a theidiau uniaith Lydaweg wedi cael plant dwyieithog, a'r wyrau a'r wyresau yn mynd ymlaen i fod yn uniaith Ffrangeg. Oeddwn i'n holi Llydawr (sydd bellach yn byw yn Nhregarth ger Bethesda) am hyn, a mi ddywedodd ei fod yntau pan yn iau ddim yn siarad Llydaweg, a nad oedd yn medru dallt ei fam a'i nain yn cyfathrebu. Dyna sut y mae'r nifer o siaradwyr wedi gostwng cyn gymaint.
O be dw i'n arddeall mae cymunedau Llydaweg yn awr yn hynod brin, wedi eu cyfyngu i'r parthau gwledig yng nghrombil Llydaw a'r gorllewin eithaf. Finistere yw lle mae'r iaith gryfaf. Ond fel dywedodd y Llydawr imi, chlywi di ddim mo'r Lydaweg heb chwilio amdano - a hyd yn oed wedi chwilio 'sdim garanti y ddoi di o hyd iddi bellach.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?""Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"Y Rachub Rydd Gymraeg