Tudalen 1 o 3

Llydaweg

PostioPostiwyd: Maw 12 Gor 2005 3:44 pm
gan sanddef
Dw'i'n Llydaw ar hyn o bryd. Deng mlynedd yn ôl bu 500000 o siaradwyr, rwan siaredir am 300000! Lle mae siaradwyr Llydaweg? Byw ar ffermydd yn ôl pob sôn, does dim ardal na dref lle y gellir ei chlywed ar lafar yn y stryd, gwaetha'r modd! Os ti'n nabod Twm Morys gofyn iddo sgwennu am y pwnc, mae'n gwbod yn gwell na fi. :(

PostioPostiwyd: Maw 12 Gor 2005 4:38 pm
gan Lletwad Manaw
Newydd ddod nol o Lydaw.

Glywes i ddim Llydaweg yn cael ei siarad o gwbwl, a phrin iawn yw'r defnydd ohoni ar arwyddion siopau, arwyddion ffyrdd ayyb yn ol be weles i.

Lle wyt ti yn Llydaw?

Yn rhyfedd iawn wedodd un boi wrthai ei fod hi'n fwy tebygol i chi glywed person iau yn siarad yr iaith na pherson hyn, odi hyn yn wir?

PostioPostiwyd: Maw 12 Gor 2005 5:23 pm
gan sanddef
Heddiw dw'i ym Montroulez (Morlaix). Dywedodd un wrthyf mai y to dan 17 sy'n medru'r iaith tra bo'r rhai rhwng 17 a 40 heb ei siarad. Dw'i wedi cwrdd a sawl un sy'n siarad Llydaweg ond yr unig gyfle ges i i'w chlywed ar lafar oedd ymhlith myfyrwyr yn Roazhon (Rennes) mewn tafarn o'r enw The Westport Inn (The Claddagh Ring gynt) ar Rue Dinan yngh nghanol y ddinas. Dysgu'r Gymraeg ydynt yno. Ond sut gellir cuddio 30000 o bobl? dwn i'm

PostioPostiwyd: Maw 12 Gor 2005 5:25 pm
gan sanddef
wps! isio dweud 300000 ydw i!

PostioPostiwyd: Maw 12 Gor 2005 5:36 pm
gan gronw
cywirwch fi os dwi'n rong ond dwi'n meddwl bod lot o'r siaradwyr Llydaweg 40+ yn teimlo cywilydd eu bod nhw'n siarad yr iaith o gwbl (gweler Cymru 100 mlynedd yn ol) ac felly nhw sy'n cuddio'u hunain. jyst y lleiafrif "cenedlaetholgar" sy'n ddigon eithafol i siarad eu hiaith eu hunain yn gyhoeddus a'i phasio ymlaen i'w plant :?

PostioPostiwyd: Maw 12 Gor 2005 6:29 pm
gan sanddef
O'n i'n meddwl hynny hefyd ond un peth dw'i wedi sylweddoli y tro 'ma yn Llydaw ydy cryfder cyffredin hunanoliaeth y Llydawyr. Roedd fy ymweliad blaenorol yn 1995 ac ers hynny maent wedi rhoi mwyafrif arwyddon ffordd yn ddwyieithog, er bod y Ffrangeg uwchben y Llydaweg. Eto nad oes neb yma sy'n nabod lle gellir ei chlywed ar y stryd. Gallwn ni yng Nghymru fod yn ddiolchgar iawn i'r rhai sydd wedi ymgyrchu dros ein hiaith! Fan hyn mae isio i rywun ddatgan fersiwn Llydaweg o sgwrs Saunders Lewis ar ddyfodol yr iaith!

PostioPostiwyd: Maw 12 Gor 2005 6:50 pm
gan gronw
hm, diddorol. o ran ymgyrchu, dwi'n cofio ffrind i fi sydd a'i fam o lydaw yn dweud bod ei fam e wedi cael ei harestio mewn rhyw fath o brotest dros y llydaweg. yn y 70au oedd hynny fyswn i'n meddwl. dwi ddim yn gwbod dim mwy o hanes ymgyrchu o ran y llydaweg, nac os oes ymgyrch o hyd, heblaw bod DIWAN yn gwneud gwaith da iawn o ran addysg lydaweg. pan o'n i yna ar f ngwylie haf dwetha, fe ymddangosodd graffiti gwych yn y dref lle o'n i'n aros tua hanner ffordd drwy'r gwylie: "breizh e brezhoneg, stourm ar vrezhoneg" dwi'n credu, rhywbeth tebyg i "llydaweg yn llydaw, brwydr y llydaweg" dwi'n meddwl...

unrhyw un yn gallu ein goleuo ar ymgyrchu llydaweg? mae digon o'i angen, mae'n debyg bod gwladwriaeth ffrainc yn elyniaethus iawn.

PostioPostiwyd: Maw 12 Gor 2005 7:30 pm
gan sanddef
gronw a ddywedodd:unrhyw un yn gallu ein goleuo ar ymgyrchu llydaweg? mae digon o'i angen, mae'n debyg bod gwladwriaeth ffrainc yn elyniaethus iawn.


Gelyniaethus iawn. Goleuo? Twm Morys. Lle mae o?

PostioPostiwyd: Maw 12 Gor 2005 8:13 pm
gan gronw
mae Nei ar y maes yn gwybod lot am Lydaw hefyd. lle mae pawb? does bosib bod gan y bobl ma rwbeth gwell i neud na bod ar maes-e drwy'r dydd?

PostioPostiwyd: Maw 12 Gor 2005 11:07 pm
gan Macsen
Eman da zont ar yezh en arvar! Erthygl am y Llydaweg yn Tafod Cymdeithas yr Iaith Steddfod yma.

[/plyg]