Tudalen 3 o 3

PostioPostiwyd: Sad 18 Chw 2006 8:27 pm
gan sian eirian
Diolch Mei; dwi jest a torri mol isio mynd i Lydaw a dysgu Llydaweg. Lle ti'n awgrymu - oes na Fro Gymraeg / Bro Breizh yno?

PS Faint o Sgolion Diwan sydd erbyn wan ta? Darlithwraig dlawd yn chwilio am job!

PostioPostiwyd: Sad 18 Chw 2006 10:43 pm
gan Hogyn o Rachub
Roedd 1.6 miliwn o bobl yn siarad Llydaweg ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. Amcangyfrifiad mai tua 250,000 sydd ar ol erbyn hyn: gostyngiad o 84% mewn ychydig dros ganrif (dros dwbl y gostyngiad yng Nghymru).

Mi wnes i brosiect ar y Lydaweg i'm cwrs Ffrangeg Lefel A yn 'rysgol, mae o 'mlaen i rwan, ac er gwaith caled mudiad Diwan ac ati, mae'n edrych yn ddu iawn ar yr iaith ar y cyfan. Er enghraifft, yn Brezhon Izel (Llydaw Isaf), sef hen gadarnleoedd yr iaith, mae canran uchel iawn iawn o bobl dros 70 yn medru'r iaith, ond dim ond 3.5% o'r boblogaeth o dan 15 sy'n ei medru (nid ffigyrau swyddogol mo'r rhain, cofiwch, ond synnwn i ddim petawn nhw'n frawychus o adlewyrchiadol).

Mae'r tueddiad wedi bod ers hanner ffordd drwy'r ganrif ddiwethaf bod neiniau a theidiau uniaith Lydaweg wedi cael plant dwyieithog, a'r wyrau a'r wyresau yn mynd ymlaen i fod yn uniaith Ffrangeg. Oeddwn i'n holi Llydawr (sydd bellach yn byw yn Nhregarth ger Bethesda) am hyn, a mi ddywedodd ei fod yntau pan yn iau ddim yn siarad Llydaweg, a nad oedd yn medru dallt ei fam a'i nain yn cyfathrebu. Dyna sut y mae'r nifer o siaradwyr wedi gostwng cyn gymaint.

O be dw i'n arddeall mae cymunedau Llydaweg yn awr yn hynod brin, wedi eu cyfyngu i'r parthau gwledig yng nghrombil Llydaw a'r gorllewin eithaf. Finistere yw lle mae'r iaith gryfaf. Ond fel dywedodd y Llydawr imi, chlywi di ddim mo'r Lydaweg heb chwilio amdano - a hyd yn oed wedi chwilio 'sdim garanti y ddoi di o hyd iddi bellach.

PostioPostiwyd: Sad 25 Chw 2006 4:13 pm
gan sanddef