Rhodri Nwdls a ddywedodd:Mae'n wir fod y trafferthion cytuno ar orgraff yn rhwystro unrhyw fath o ddabtlygiad pendant strategol ar gyfer adfywiad yr iaith. Piti garw.
Erbyn hyn, mae'n debyg fod yna gytundeb ymysg pedwar o'r pum grwp sy'n dadlau am orgraff yr iaith, fod angen sefydlu orgraff gyffredin, gan mai dyma'r unig ffordd o ddiogelu Cernyweg yn y byd modern. Mae'n debyg hefyd fod yna gynllun drwy Gyngor Sir Cernyw a'r ODPM (sy'n gyfrifol am lywodraeth leol tu hwnt i glawdd Offa) i ariannu prosiect fydd yn sefydlu orgraff, drwy gydweithredu a siaradwyr yr iaith.
Un tro, cafodd Mrs. Weil a minnau siars gan ryw Gernywwr di-Gernyweg arbennig o feddw, peryglus a blin, am fod y boi ddechreuodd y mudiad atgyfodi Cernyweg yn y ganrif ddiwethaf wedi defnyddio sillafiad a ffurfiau Cymraeg, a bod hynny'n warth ac yn sen. Nid oedd am ddysgu Cernyweg, gan nad Cernyweg go iawn oedd hi (neu dyna ei esgus). "I don't want to be a f*&%*?! Welshman" ebr ef.