Cernyw a Chernyweg

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cernyw a Chernyweg

Postiogan sanddef » Sad 16 Gor 2005 9:32 am

Yng Nghernyw ydw i rwan, Fy nhro cyntaf fan hyn. Mae digon o hunaniaeth Gernyw i weld yma ond cwyno ydy'r bobl leol am gymaint o Saeson sydd wedi mewnfudo(yn wir, mae'n eitha anodd dod o hyd at bobl leol!).
Awgrymodd un wrthyf fod yna 1 neu 2 fil o bobl sy'n siarad Cernyweg yn rhugl a tua 5 mil sy'n medru'r iaith yn rhannol. Unrhyw sylwadau?
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Aran » Sad 16 Gor 2005 9:55 am

Dw i ddim yn gwybod am y ffigyrau - cysyllta gyda Mebyon Kernow os am wybod mwy am hynny.

Ond mae'n ymddangos bod ffrae mawr yn mynd ymlaen am orgraff yr iaith (gydag oddeutu 3 opsiwn gwahanol ar gael), ac o'r e-bostiau sy'n hedfan o gwmpas (dw i'n cael fy nghopïo ar lawer ohonyn nhw), mae'n gwneud niwed real i'w gallu i gydweithio er lles yr iaith.

Sy'n bechod garw.
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Mr Gasyth » Sad 16 Gor 2005 11:42 am

Aran a ddywedodd:Dw i ddim yn gwybod am y ffigyrau - cysyllta gyda Mebyon Kernow os am wybod mwy am hynny.

Ond mae'n ymddangos bod ffrae mawr yn mynd ymlaen am orgraff yr iaith (gydag oddeutu 3 opsiwn gwahanol ar gael), ac o'r e-bostiau sy'n hedfan o gwmpas (dw i'n cael fy nghopïo ar lawer ohonyn nhw), mae'n gwneud niwed real i'w gallu i gydweithio er lles yr iaith.

Sy'n bechod garw.


Falle ddylen ni anfon John Morris Jones lawr i'w sortio nhw allan!
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Dili Minllyn » Sad 23 Gor 2005 7:23 pm

Aran a ddywedodd:Ond mae'n ymddangos bod ffrae mawr yn mynd ymlaen am orgraff yr iaith (gydag oddeutu 3 opsiwn gwahanol ar gael), ac o'r e-bostiau sy'n hedfan o gwmpas (dw i'n cael fy nghopïo ar lawer ohonyn nhw), mae'n gwneud niwed real i'w gallu i gydweithio er lles yr iaith.


Dyma'r stori yn y Guardian.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Siffrwd Helyg » Iau 28 Gor 2005 11:52 am

a'r stori o wefan newyddion arlein y bbc :

http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_4 ... 715163.stm
Rhithffurf defnyddiwr
Siffrwd Helyg
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 830
Ymunwyd: Sul 08 Meh 2003 10:38 pm
Lleoliad: Caerfyrddin/Aberystwyth

Postiogan Iestyn ap » Llun 02 Ion 2006 2:05 pm

Roeddwn i'n mynychu gwyl nawddsant Cernyw rhai misoedd yn ol ym Mhorth Perran, pryd y tystiais y tri carfan ieithyddol Cernaweg yn dadlau mewn modd tase 'di siomi hyd yn oed Ian Paisley. Mae'n rhaid iddynt uno, neu ni wnaiff y iaith ddatblygu. :(
Rhithffurf defnyddiwr
Iestyn ap
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 135
Ymunwyd: Maw 20 Rhag 2005 7:56 pm
Lleoliad: Llangadog

Postiogan Clebryn » Llun 02 Ion 2006 2:12 pm

O ni'n meddwl bod Cernyweg bron a marw! Mae'r ffigurau yma o rai miloedd yn fy synnu!

Clywes i yn ddiweddar hefyd wrth ffynhonnell digon annibynadwy, mae ond rhyw dwsin o siaradwyr Manx oedd ar ol.

Mae 60 000 yn medru "Scots Gaelic"

Beth yw'r ffigurau ar gyfer Gwyddeleg yn yr Iwerddon?
Am Gymrawd, Ew am Gymro
Clebryn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 498
Ymunwyd: Gwe 13 Mai 2005 5:42 pm

Postiogan dau bry » Llun 02 Ion 2006 2:40 pm

yn
"a thrwy darth yr oriau du, ein heniaith sy'n tywynnu"

Delwedd
dau bry
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 93
Ymunwyd: Iau 08 Rhag 2005 11:03 pm
Lleoliad: Lerpwl / Dyffryn Conwy

Postiogan Iestyn ap » Llun 02 Ion 2006 2:46 pm

Wi ddim yn hollol sicr buodd yr iaith Gernyweg farw. Yn ol hanes, hen fenyw o Mousehole (C. Porth Enys) oedd y person dwetha i siarad y Gernyweg, er hyn roedd pobl dal yn defnyddio ychydig o'r iaith cyn i'r mudiad iaith Cernyweg ffurfio. Fe ddes i o hyd i geiriadur Cernyweg a'i chyhoeddwyd gan wasg Llanymddyfri yr 1880'au, roedd hyn ddeutu trigain mlynedd cyn i R. Morton Nance gyhoeddu ei eiriadur ef, ac ymhell ar ol honiadau i'r iaith i fod yn farw :!: Os oes gennych diddordeb cael cip ar y iaith yma, mae'r llyfr Tavas a Ragdazow gan Richard Gendall yn werth ei ddarllen ISBN 0 9537710 0 8. :)http://pibyddglantywi.blogspot.com

Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Iestyn ap
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 135
Ymunwyd: Maw 20 Rhag 2005 7:56 pm
Lleoliad: Llangadog

Postiogan Rhodri Nwdls » Llun 02 Ion 2006 6:55 pm

Chydig yn rhagor o wybodaeth ar wefan Euromosaic, ond dim ffigyrau ar niferoedd siaradwyr serch hynny.

Mae'n wir fod y trafferthion cytuno ar orgraff yn rhwystro unrhyw fath o ddabtlygiad pendant strategol ar gyfer adfywiad yr iaith. Piti garw.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Nesaf

Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron