gan Hogyn o Rachub » Gwe 22 Gor 2005 3:11 pm
Erbyn heddiw, mae'n bosib astudio'r Fanaweg fel Lefel A ar yr ynys, ac mae ysgol feithrin Manaweg, o be dw i'n ddeall. O fwen y ddegawd diwethaf, mae'r siaradwyr iaith gyntaf cyntaf ers degawdau wedi dyfod. Darllenir allan holl ddeddfau'r ynys yn y Fanaweg a'r Saesneg.
Mae pennodau diddorol am adfywiad yr iaith yn y llyfrau The Celtic Revolution gan Peter Berreseford-Ellis a Spoken Here: travels among threatened languages gan Mark Abley.
Wn i ddim a oes ystadegau pendant ar y nifer sy'n ei siarad, ond mae'n debyg bod ychydig o gannoedd yn ei medru.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?""Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"Y Rachub Rydd Gymraeg