Esperanto

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ydy Esperanto'n wastraff amser?

Ydy
8
47%
Nac ydy
7
41%
Heh?
2
12%

Cyfanswm pleidleisiau : 17

Esperanto

Postiogan sanddef » Maw 26 Gor 2005 1:09 pm

Mae miliwn o bobl yn siarad yr iaith "rhyngwladol" hon. neu: dim ond miliwn o bobl. Oes pwynt ei ddysgu neu rhywbeth ar gyfer geeks ieithyddol ydy?
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur

Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Mabon.Llyr » Maw 26 Gor 2005 2:42 pm

Mae yna ran ohonaf sy'n meddwl fod Esperanto yn syniad gwych. Beth all fod yn symlach na un iaith drwy Ewrop i gyd?

Ond y gwir (trist efallai) yw ei fod yn syniad da ond wneiff byth weithio.
Petai rhyw wlad yn mynd ir holl ffws o ddefnyddio Esperanto, buasai pawb yn naill ai yn ei anwybyddu yn llwyr, neu yn stopio defnyddio eu iaithoedd cyntaf. Trueni mawr bysa hynny.

Wrth gwrs, mae hyn yn broblem ar ol anwybyddu'r ffaith fod neb moyn cael ei gorfodi i ddysgu unrhyw iaith. Yn arbennig un fydd efallai yn disodli eu hiaith gyntaf.
Rhithffurf defnyddiwr
Mabon.Llyr
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd

Negeseuon: 475
Ymunwyd: Maw 02 Tach 2004 5:32 pm

Postiogan sanddef » Maw 26 Gor 2005 2:49 pm

Na, mae gennym eisoes ieithoedd rhyngwladol megis Saesneg a Sbaeneg.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur

Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan nicdafis » Maw 26 Gor 2005 3:11 pm

Dw i wedi bod yn meddwl am Esperanto yn diweddar, yn sgîl tagiau a folksonomies, yn enwedig mewn cydestunau amlieithog. (Bear with me...)

Fel iaith ymarferol yn y byd go iawn, dw i'n tueddu cytuno bod Esperanto wedi colli ei chyfle, ond fel iaith rhyngwladol sydd heb hanes goresgyn, felly sy heb elynion gwleidyddol, mae mewn sefyllfa perffaith i weithredu fel iaith niwtral ar bethau fel Flickr.

Ar goll? Edrych ar y llun 'ma - awww, del! Reit, unwaith dy fod di wedi recyfro, edrych ar y tagiau lawr yr ochr. Mae Lleufer yn dda iawn am gynnwys tagiau, a chyda cwpl o gliciau doi di ar draws pob llun Flickr sy wedi ei dagio fel "blewog" (dim ond 2 ohonyn nhw), a phob un "hairy" (580 ohonyn nhw). Felly nawr mae'r llun 'na wedi'i gysylltu â 579 o luniau eraill - y broblem yw y bobl sy ddim yn defnyddio'r geiriau blewog na hairy i ddisgrifio eu cŵn - beth am bobl uniaith Ffrangeg a Sbaeneg (mae digon ohonyn nhw ar Flickr). Byddai Esperanto yn berffaith fel iaith adeiladu folksonomies, fel oedd Lladin yn berffaith i adeiladu tacsonomies (enwau gwyddonol anifeiliaid a blodau).

Mond syniad.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm

Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Mabon.Llyr » Maw 26 Gor 2005 3:34 pm

sanddef rhyferys a ddywedodd:Na, mae gennym eisoes ieithoedd rhyngwladol megis Saesneg a Sbaeneg.

Ond mae Esperanto wedi'i greu yn arbennig ar gyfer Ewrop, mae Saesneg FFraneg a Sbaeneg ond wedi lebeli fel iaithoedd rhyngwladol gan fod mwy o bobl yn eu daeall.
Am y rheswm hyn, efallai bydd hyn yn ei wneud i'w weld yn fwy o "fygythiad".

Synaid da a dizrl iawn nic.
Rhithffurf defnyddiwr
Mabon.Llyr
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd

Negeseuon: 475
Ymunwyd: Maw 02 Tach 2004 5:32 pm

Postiogan Ti 'di beni? » Mer 24 Awst 2005 11:09 am

Wnes i ymdrech i ddysgu Esperanto pan yn 15, ond rhoi fyny pan gododd pen y bwystfil TGAU.

Dwi'n meddwl bod na werth eu hastudio os am ddysgu nifer o ieithoedd Ewropeaidd, gan ei bod yn cymryd syniadau o Sbaeneg/Ffrangeg/Saesneg.

Ond fel arall mae'n ddibwynt, os ond fel project personol (megis dysgu Klingon).

Beni
Rhithffurf defnyddiwr
Ti 'di beni?
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd

Negeseuon: 315
Ymunwyd: Sul 21 Maw 2004 4:09 pm
Lleoliad: Arnofio yn y bae...

Postiogan HenSerenSiwenna » Mer 24 Awst 2005 11:17 am

Fysa iaith rhwngwladol, hollol newydd yn syniad gwych. Problem ydi fod saeson yn meddwl ddyle pawb derbyn saesneg fel esperanto - ond ni fydd pawb yn derbyn hyn gan mai cael ei fforsio arnym ni gaeth saesneg yn hytrach na obaith am heddwch (o nid yw hynna ystyr esperanto yn spaeneg - obaith?)

Eniwe, mae'r ffaith fod enw iaith rhwngwladol fel hyn wedi ei selio ar gair sbaeneg yn drwygdybus i mi - ond mae'r syniad yn un da!

Ella'r espiranto gorau fyddai ryw verswin newydd, rhwngwladol o sign language, wedyn fysa cymunedau byddar pob gwlad yn gallu cyfarthrebu a chael ei deall/ trin hefo parch yn ogystal a pawb arall! Am y tro cyntaf byddai cymuned byddar prydain ar cymuned clyw yn gallu cyfarthrebu, nachi gamp.

Eniwe, sori am trolio, roedd hwn yn mynd i ffurfio rhan o traethawd PHD o ni wedi gobeithio gwneud, ond ni chefais y cyfle :crio: teimlon well rwan, pob hwyl hefo'r ehedyn :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
HenSerenSiwenna
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian

Negeseuon: 852
Ymunwyd: Llun 28 Chw 2005 1:45 pm
Lleoliad: Lerpwl

Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron