Gwersi Sbaeneg, Eidaleg a Ffraneg drwy'r Gymraeg!!

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Gwersi Sbaeneg, Eidaleg a Ffraneg drwy'r Gymraeg!!

Postiogan meirion » Maw 23 Awst 2005 9:23 am

Mi fydd Menter Iaith Conwy yn ail-gychwyn Gwresi Sbaeneg a Eidaleg drwy'r Gymraeg ar ddiwedd Medi yn nhref Llanrwst, yn ychwanegol i hyn, bydd Gwersi Ffraneg drwy'r Gymraeg yn cael ei gynnal hefyd.

Dyma wybodaeth i chi ynglyn a'r gwersi :

Sbaeneg drwy'r Gymraeg : I ddechrau ar nos Fawrth, Medi 27 am 7:00pm yn Swyddfa Menter Iaith Conwy yn Llanrwst, am gyfnod o 10 wythnos. Cost £40.

Eidaleg drwy'r Gymraeg : I ddechrau ar nos Fercher, Medi 28 am 7:00pm yn Swyddfa Menter Iaith Conwy yn Llanrwst, am gyfnod o 10 wythnos. Cost £40.

Ffraneg drwy'r Gymraeg : I ddechrau ar nos Iau, Medi 29 am 7:00pm yn yr Elusendai yn Llanrwst, am gyfnod o 10 wythnos. Cost £40.

Am fwy o wybodaeth, neu i gofrestru eich enw, ffoniwch Menter Iaith Conwy ar 01492 642357.
meirion
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 136
Ymunwyd: Gwe 07 Tach 2003 10:47 am
Lleoliad: Llanrwst

Postiogan meirion » Mer 07 Medi 2005 1:09 pm

Mae dyddiad cychwynol y gwersi Sbaeneg, Eidaleg neu Ffraneg yn prysur agosau, felly os ydych chi'n awyddus i ddysgu iaith newydd, neu yn adnabod rhwyun arall sy'n awyddus i ddysgu iaith newydd, a fyddai'n bosib i chi/nhw ffonio Menter Iaith Conwy ar 01492 642357 mor fuan ag sy'n bosib!!
meirion
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 136
Ymunwyd: Gwe 07 Tach 2003 10:47 am
Lleoliad: Llanrwst

Postiogan SbecsPeledrX » Mer 07 Medi 2005 9:11 pm

How am I supposed to learn Spanish then?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan gronw » Mer 07 Medi 2005 10:00 pm

learn welsh first
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 7:12 pm

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Iau 29 Medi 2005 10:22 am

dwi'n dechra gwersi sbaeneg yng nglyn llifon nos fawrth nesa', drwy gyfrwng y gymraeg. ond dwi'n cofio'n athrawes ffrangeg i'n 'rysgol (hen bitch, 'sa 'm rhyfadd mai mond dwyieithog dwi di bod byth wedyn) yn deud 'i bod hi'n haws dysgu iaith ewropeaidd drwy gyfrwng y saesneg... ydi hynny'n wir? well gin i ddysgu iaith newydd drwy gyfrwng 'n iaith gynta' diolch yn fawr iawn!
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

Postiogan Mr Gasyth » Iau 29 Medi 2005 10:43 am

Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:dwi'n dechra gwersi sbaeneg yng nglyn llifon nos fawrth nesa', drwy gyfrwng y gymraeg. ond dwi'n cofio'n athrawes ffrangeg i'n 'rysgol (hen bitch, 'sa 'm rhyfadd mai mond dwyieithog dwi di bod byth wedyn) yn deud 'i bod hi'n haws dysgu iaith ewropeaidd drwy gyfrwng y saesneg... ydi hynny'n wir? well gin i ddysgu iaith newydd drwy gyfrwng 'n iaith gynta' diolch yn fawr iawn!


O ran Ffrangeg a Sbaeneg faswn i'n deud fod yr eirfa yn depycach i Saesneg (lladron Lladin) ond fod y gramadeg yn depycach i Gymraeg (enwau efo cenedl, ansoddeiriau'n cytuno, ti/chi etc)
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel


Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron