Ddim yn siwr ydy hyn wedi cyrraedd y cyfryngau eraill, ond roedd darn yn y New Scientist yn ddiweddar am y Pirahã, cenedl o ryw 200 o bobl ym Mrasil sy’n siarad eu hiaith eu hunain.
Dydyn ni ddim yn cyfrif pethau, ac does dim rhifau yn eu hiaith, er bod nhw weithiau’n cymharu pethau o ran eu maint. Mae ymchwilwyr wedi bod yn trïo eu dysgu nhw i gyfrif yn Bortiwgaleg (sef iaith swyddogol y wlad), ond doedden nhw ddim yn deall cyfrif fel cysyniad. Does gyda nhw chwaith ddim lliwiau, na dim geiriau am beth haniaethol (abstract) – maen nhw’n ddi-grefydd a does gyda nhw ddim gair am dduw.