Pennaeth TF1 a'r Llydaweg

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pennaeth TF1 a'r Llydaweg

Postiogan Emrys Weil » Gwe 16 Medi 2005 9:22 am

wele erthygl bwysig iawn:

http://www.eurolang.net/index.php?option=com_content&task=view&id=2443&Itemid=1

A allech chi ddychmygu Cymro'n cyrraedd y top yn y BBC ac yn deud y fath beth?

Wedi dweud hynny, siawns y byddai'r wasg yn llai milain tuag ato.
Pan gyrhaeddaswn ganol gyrfa'n bywyd,
Mewn coedwig dywell, cefais i fy hunan;
Oherwydd ynddi'r union ffordd gollasid.
Rhithffurf defnyddiwr
Emrys Weil
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 410
Ymunwyd: Gwe 16 Gor 2004 8:02 pm

Re: Pennaeth TF1 a'r Llydaweg

Postiogan Aran » Gwe 16 Medi 2005 9:36 am

Emrys Weil a ddywedodd:Wedi dweud hynny, siawns y byddai'r wasg yn llai milain tuag ato.


'Sgwn i...

Ar nodyn cysylltiedig - nos Lun, dwedodd Andrew Davies y dylem edrych tuag at bolisiau economaidd llwyddiannus yn Llydaw (megis datblygu Marinas!) fel rhan o'r ffordd i gryfhau'r cymunedau Cymraeg.

Ymddengys bod yr Wyl Pan-Geltaidd wedi'i arghyoeddi bod y Llydaweg yn gwneud yn dda... :ofn:
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Dylan » Gwe 16 Medi 2005 11:44 am

chwara' teg iddo fo. Mae agwedd Ffrainc tuag at y Lydaweg yn waeth hyd yn oed nag agwedd Prydain tuag at y Gymraeg.

O'n i ar wyliau yn Llydaw wythnos diwetha' (Karantec, nid nepell o Montroulez) ac 'roedd y sefyllfa yn edrych yn reit druenus. 'Roedd y lle yn llawn tai haf, gwag. Petawn i wedi dechrau ymgyrch losgi yn y fan a'r lle 'dw i ddim yn siwr a fyddai unrhyw un wedi sylwi am wythnosau beth bynnag. :?

wedi dweud hynny, mewn gwersyll / maes carafannau 'roeddan ni'n aros felly debyg 'mod i'n rhagrithio. :(
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan sara » Mer 20 Medi 2006 3:20 pm

help! dwi'n gneud prosiect am lydaweg ar gyfer lefelA ffrangeg, a oni'n meddwl ella bydda'r erthygl yna o ryw iws, ond dwi methu i gweld hi :s ma'n deud fod angan logio mewn, ond fedrai'm gweld lle i gofrestru o gwbwl. Beryg fod yr erthygl di cal ei thynnu lawr beth bynnag? Os fasa rhywun yn gallu rhoi copi o'r erthygl ar fama/deud wrtha fi sut i gofrestru/rhoi 'jist' yr erthygl ifi faswn i'n ddiolchgar iawn!
I'm out of my mind, but I like it that way
Rhithffurf defnyddiwr
sara
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 215
Ymunwyd: Mer 08 Maw 2006 3:58 pm

Postiogan Rhodri Nwdls » Mer 20 Medi 2006 4:29 pm

sara a ddywedodd:help! dwi'n gneud prosiect am lydaweg ar gyfer lefelA ffrangeg, a oni'n meddwl ella bydda'r erthygl yna o ryw iws, ond dwi methu i gweld hi :s ma'n deud fod angan logio mewn, ond fedrai'm gweld lle i gofrestru o gwbwl. Beryg fod yr erthygl di cal ei thynnu lawr beth bynnag? Os fasa rhywun yn gallu rhoi copi o'r erthygl ar fama/deud wrtha fi sut i gofrestru/rhoi 'jist' yr erthygl ifi faswn i'n ddiolchgar iawn!

Raid i ti dalu am erthyglau archif Eurolang...ond ebostia nhw'n neis a falla wnawn nhw adael i ti ddarllen un. Mae'r golygydd yn Gernyw-wr sy'n siarad Cymraeg.

Mae yna erthyglau am hyn ar wefan Agence Bretagne Presse, ond maent oll yn Ffrangeg.

Dyma un: http://www.agencebretagnepresse.com/fet ... =tf1&key1= a dyma wefan y cylchgrawn lle ymddangosodd y cyfweliad yn wreiddiol: http://www.bretons-mag.com/

Does dim archif ar-lein yno yn anffodus.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Rhodri Nwdls » Mer 20 Medi 2006 4:31 pm

Hop! Bingoooo!

Galli di weld yr erthygl a'r cyfweliad gwreiddiol fan hyn: http://www.eurolang.net/index2.php?opti ... =1&id=2443
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan sara » Mer 20 Medi 2006 8:20 pm

diolch masif! lol dyna be ddylwn i roi yn llyfryddiaeth y brosiect 'une tres grande merci a rhodri nwdls'. :lol:
I'm out of my mind, but I like it that way
Rhithffurf defnyddiwr
sara
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 215
Ymunwyd: Mer 08 Maw 2006 3:58 pm

Postiogan Rhodri Nwdls » Iau 21 Medi 2006 4:08 pm

sara a ddywedodd:diolch masif! lol dyna be ddylwn i roi yn llyfryddiaeth y brosiect 'une tres grande merci a rhodri nwdls'. :lol:

8) :D
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan sara » Iau 21 Medi 2006 8:45 pm

da chi wir ddim yn gwerthfawrogi sawl collnod sy na yn Ffrangeg tan ichi ddarllan ffeil pdf wedi'i thrawsnewid o html, ond gyda pob collnod wedi ei roi fel '’'
I'm out of my mind, but I like it that way
Rhithffurf defnyddiwr
sara
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 215
Ymunwyd: Mer 08 Maw 2006 3:58 pm

Postiogan Rhys » Gwe 22 Medi 2006 9:12 am

Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd


Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron