Gaeleg yr Alban - Trend tebyg i'r Gymraeg?

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Gaeleg yr Alban - Trend tebyg i'r Gymraeg?

Postiogan Cawslyd » Sad 15 Hyd 2005 8:25 pm

Cawslyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1832
Ymunwyd: Mer 09 Meh 2004 6:43 pm

Postiogan Clebryn » Sad 15 Hyd 2005 8:58 pm

Dwi ar hyn o bryd ar daith gyfnewid i Ganada.

Mae'r bobol leol o hyd yn gofyn am yr ystadegau ynglyn a'r nifer o Siaradwyr Cymraeg, Gaeleg, Gwyddeleg a'r ieithoedd Celtaidd eraill.

Ma rhyw 500 000 ohono ni yn siarad Cymraeg, os ydyn ni i gredu ystadegau'r Cynulliad.

Ma rhyw 60 000 yn siarad Gaeleg.

Faint o bobl sy'n siarad Gwyddeleg, Cernyweg, Manx ayyb?
A yw'r ieithoedd yma yn cael eu cydnabod o gwbwl fel ieithoedd swyddogol?

Diolch
Am Gymrawd, Ew am Gymro
Clebryn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 498
Ymunwyd: Gwe 13 Mai 2005 5:42 pm

Postiogan Tegwared ap Seion » Sad 15 Hyd 2005 11:26 pm

Mae'r Wyddeleg* yn cael ei chydnabod fel iaith "swyddogol" yn Ewrop dwi'n meddwl?

*a plis na, dwi ddim isho darlith am be dwi fod i alw'r iaith. :winc: ond geith rhywun ddeutha fi os leciwch chi.
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan Emrys Weil » Sul 08 Ion 2006 8:29 pm

Mae erthygl ddiddorol yma am addysg Aeleg yn Ynysoedd y Gorllewin, a phenderfyniad y Cyngor Sir i wyrdroi sefyllfa lle mae rhaid i rieni optio mewn i addysg Aeleg i un lle mae rhaid optio allan.
Pan gyrhaeddaswn ganol gyrfa'n bywyd,
Mewn coedwig dywell, cefais i fy hunan;
Oherwydd ynddi'r union ffordd gollasid.
Rhithffurf defnyddiwr
Emrys Weil
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 410
Ymunwyd: Gwe 16 Gor 2004 8:02 pm

Postiogan S.W. » Llun 09 Ion 2006 11:18 am

Mae'n nhw'n sylweddoli mwy a mwy yn yr Alban erbyn hyn bod angen iddynt gwneud lot mwy gyda'r Gaeleg nag y maent yn barod. Un datblygiad da iawn yn fy marn i mewn un tref yn y Ucheldiroedd Gorllewinol ydy eu bod yn symud yr uned Gaeleg allan o'r ysgol Gatholig lleol a'i rhoi fel uned mewn ysgol newydd fydd ddim yn grefyddol. Er nad yw hyn yn agos at fod cystal ag agor ysgol Gaeleg penodol mae'n golygu bod potensial i mwy o bobl gael mynediad at addysg drwy gyfrwng y Gaeleg.

Mae na hefyd mwy a mwy o arwyddion dwyieithog yn codi ar y strydoedd, ar y swyddfeydd post a hefyd dwi wedi gweld Tescos a Co-Op gyda arwyddion croeso yn y Galeg. Camau bychain iawn ond camau allweddol hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Hogyn o Rachub » Llun 09 Ion 2006 11:48 am

Clebryn a ddywedodd:Faint o bobl sy'n siarad Gwyddeleg, Cernyweg, Manx ayyb?
A yw'r ieithoedd yma yn cael eu cydnabod o gwbwl fel ieithoedd swyddogol?

Diolch


Yn swyddogol mae 'na bell dros filiwn o siaradwyr i'r Wyddeleg - ond mae'r ffigwr yna'n gamarweiniol tu hwnt. Os ti'n son am siaradwyr rhugl, dyddiol prin fod y ffigwr yn 30,000, mewn difri.

Mae o bosib tua 3,000 o bobl efo dealltwriaeth o'r Gernyweg. Ond mae 'na dri 'cangen' a mae dadlau cyson ynglyn a chywirdeb pob un yn atal y cynnydd rhag gyrraedd ei lawn botensial. Mae gan Cernyweg statws swyddogol.

O ran y Fanaweg, efallai bod ambell i gant yn ei medru ond ychydig o ddegau sy'n ei ddefnyddio o gwbl.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Cawslyd » Llun 09 Ion 2006 10:13 pm

Cawslyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1832
Ymunwyd: Mer 09 Meh 2004 6:43 pm


Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron