Clebryn a ddywedodd:Faint o bobl sy'n siarad Gwyddeleg, Cernyweg, Manx ayyb?
A yw'r ieithoedd yma yn cael eu cydnabod o gwbwl fel ieithoedd swyddogol?
Diolch
Yn swyddogol mae 'na bell dros filiwn o siaradwyr i'r Wyddeleg - ond mae'r ffigwr yna'n gamarweiniol tu hwnt. Os ti'n son am siaradwyr rhugl, dyddiol prin fod y ffigwr yn 30,000, mewn difri.
Mae o bosib tua 3,000 o bobl efo dealltwriaeth o'r Gernyweg. Ond mae 'na dri 'cangen' a mae dadlau cyson ynglyn a chywirdeb pob un yn atal y cynnydd rhag gyrraedd ei lawn botensial. Mae gan Cernyweg statws swyddogol.
O ran y Fanaweg, efallai bod ambell i gant yn ei medru ond ychydig o ddegau sy'n ei ddefnyddio o gwbl.