Geiriadur Sbaeneg - Cymraeg

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Geiriadur Sbaeneg - Cymraeg

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 13 Rhag 2005 10:53 pm

A oes yna eiriadur Sbaeneg-Cymraeg Cymraeg-Sbaeneg yn bodoli ar hyn o bryd?

Dwi'n ymwybodol fod Canolfan Astudiaethau Addysg Prifysgol Cymru, Aberystwyth wedi cyhoeddi geiriaduron Cymraeg - Ffrangeg / Ffrangeg - Cymraeg a Cymraeg - Almaeneg / Almaeneg - Cymraeg, ond heb glywed unrhyw son am eiriadur Sbaeneg-Cymraeg. Rhywyn yn gwybod os yw geiriadur o'r fath wrthi'n cael ei greu? Oes grantiau ar gael i greu geiriadur o'r fath?

Cyfaill i mi wedi cychwyn creu geiriadur Sbaeneg-Cymraeg swmpus, ac mae'n waith safonol tu hwnt chwarae teg, gyda brawddeg yn esbonio cyd-destun y gair ar gyfer pob cofnod.

Diolch am unrhyw wybodaeth.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Socsan » Mer 14 Rhag 2005 8:16 am

Does gen i ddim syniad os oes na un yn bodoli
Rhithffurf defnyddiwr
Socsan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 284
Ymunwyd: Mer 30 Tach 2005 10:01 am
Lleoliad: Sgawsland

Postiogan ianjamesjohnson » Maw 27 Rhag 2005 12:31 am

Dwi'n siwr roedd rhywbeth ar gael yn y Wladfa am rhesymau amlwg, ond dwi ddim yn gwybod faint mor hen bydd y llyfrau neu os oes unrhyw ffordd prynu nhw (dwin siwr byddan nhw'n mas o brint erbyn hyn).

Dwi'n gwybod roedd ychydig o bobl yna llynedd yn ysgrifennu geiriadur newydd dros dysgwyr Cymraeg ond dwi ddim yn gwybod os maen nhw wedi cyhoeddi fe neu faint o fanylion/maint/nifer o eiriau fydd yn cael eu cynnwys neu faint mor addas bydd y cyfrol i bobl o Gymru'n dysgu Sbaeneg.
<a href="http://www.barrytownfc.co.uk/" target="a">CPD Y Barri</a> l <a href="http://www.flickr.com/photos/ianjamesjohnson" target="a">Ffotos 2006</a> l <a href="http://www.geocities.com/ianinprague2005" target="a">Prague 2005</a>
Rhithffurf defnyddiwr
ianjamesjohnson
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 139
Ymunwyd: Iau 11 Maw 2004 12:18 pm
Lleoliad: Y Barri


Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron