A oes yna eiriadur Sbaeneg-Cymraeg Cymraeg-Sbaeneg yn bodoli ar hyn o bryd?
Dwi'n ymwybodol fod Canolfan Astudiaethau Addysg Prifysgol Cymru, Aberystwyth wedi cyhoeddi geiriaduron Cymraeg - Ffrangeg / Ffrangeg - Cymraeg a Cymraeg - Almaeneg / Almaeneg - Cymraeg, ond heb glywed unrhyw son am eiriadur Sbaeneg-Cymraeg. Rhywyn yn gwybod os yw geiriadur o'r fath wrthi'n cael ei greu? Oes grantiau ar gael i greu geiriadur o'r fath?
Cyfaill i mi wedi cychwyn creu geiriadur Sbaeneg-Cymraeg swmpus, ac mae'n waith safonol tu hwnt chwarae teg, gyda brawddeg yn esbonio cyd-destun y gair ar gyfer pob cofnod.
Diolch am unrhyw wybodaeth.