gwersi llafar sbaeneg yng Nghaerdydd

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

gwersi llafar sbaeneg yng Nghaerdydd

Postiogan docito » Iau 15 Rhag 2005 12:05 pm

Dwi'n edrych am rhywun i rhoi gwersi sbaeneg llafar a gramadeg i mi yng Ngaerdydd. Hoffwn rhywun sydd a sbaeneg fel eu hiaith gyntaf gan fy mod yn siarad yn eithaf rhugl. Yn ddelfrydol fe fydd y person yn rhywun ifanc hefyd. Unrhyw syniade/cysylltiade?
Ayudame!!
Rhithffurf defnyddiwr
docito
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 900
Ymunwyd: Maw 13 Rhag 2005 10:58 am
Lleoliad: jyst off albany rd

Postiogan Rhys » Iau 15 Rhag 2005 12:20 pm

Dwn i'm pa mor addas fyddai rhywun o Batgonia, dychmygaf fod eu Sbaeneg (yn enwedig yn llafar) ychydig yn wahanol i Sbaeneg Sbaen (Castilian?), ond mae yna griw sylweddol yn astudio'r Gymraeg yn Nghanolfan Gymraeg Prifysgol Caerdydd. Y mwyafrif yn eu 20'au a'u 30'au. Werth trio.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan docito » Iau 15 Rhag 2005 12:35 pm

gwych Rhys
Mewn gwirionedd rwy'n siarad sbaeneg castellano yr arianin gan i mi ddysgu yn BUenos Aires. Oes gen ti unrhyw gysylltiadau?
Rhithffurf defnyddiwr
docito
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 900
Ymunwyd: Maw 13 Rhag 2005 10:58 am
Lleoliad: jyst off albany rd

Postiogan Rhys » Iau 15 Rhag 2005 12:39 pm

Nagoes sori, ond gwgla am y Ganolfan Cymraeg a'u ffonio nhw, neu rho boster fyny yn eu ystafell goffi (ar lawr gwaelod adeilad y dyniaethau, tu
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan ianjamesjohnson » Maw 27 Rhag 2005 12:25 am

Yn y gorffennol, mae Geraldine Lublin o'r Adran Gymraeg (ond o Bs As yn wreiddiol) wedi trefnu noson Sbaeneg dros dysgwyr yng Nganolfan Chapter. Doedd e ddim yn cwrs ond cyfle i siarad gyda dysgwyr eraill i godi hunanhyder gyda hi yn helpu i esbonio pytiau gramadeg neu eiriau wahanol os oedd rhaid iddi. Dwi ddim yn gwybod os mae hi'n rhoi gwersi preifat wrth pobl.

Mae pobl o'r Ariannin yn disgrifio eu iaith fel 'Castellano' ac wrth gwrs os ti'n mynd nol i Bs As neu'r Wladfa bydd Sbaeneg yr Ariannin yn well i ddysgu! Ond dwi ddim yn meddwl mae gormod o wahaniaeth rhwng Sbaeneg yn Ewrop ac yr Ariannin, dim ond fel y wahaniaeth rhwng Saesneg Lloegr a'r UDA, siwr mae'n gallu swnio'n od ond mae'n dealladwy.

Scorchio! :crechwen:
<a href="http://www.barrytownfc.co.uk/" target="a">CPD Y Barri</a> l <a href="http://www.flickr.com/photos/ianjamesjohnson" target="a">Ffotos 2006</a> l <a href="http://www.geocities.com/ianinprague2005" target="a">Prague 2005</a>
Rhithffurf defnyddiwr
ianjamesjohnson
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 139
Ymunwyd: Iau 11 Maw 2004 12:18 pm
Lleoliad: Y Barri


Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron