Mae Menter Iaith Conwy wedi trefnu rhagor o wersi Sbaeneg a Ffrangeg drwy'r Gymraeg.
Gyda gwersi llwyddiannus yn cael eu cynnal yn Llanrwst ar hyn o bryd, rydym wedi penderfyny dechrau cyrsiau Sbaeneg a Ffrangeg drwy'r Gymraeg ar y Glannau.
Mi fydd Gwers Ffrangeg drwy'r Gymraeg yn cael ei gynnal yn Adeilad Cwmni Penllan, ar Ffordd Y Pentref yn Llanfairfechan, gan ddechrau ar nos Fawrth, Chwefror 28 am 7:00pm. Mae'r lleoliad yn addas ar gyfer trigolion Sir Conwy, a hefyd i drigolion ardaloedd Caernarfon, Bangor, Ynys Mon ayyb.
I gofrestru eich enw ffoniwch Menter Iaith Conwy ar 01492 642357 mor fuan ag sy'n bosib.
Mi fydd Gwers Sbaeneg drwy'r Gymraeg yn cael ei gynnal yng Ngholeg Cymunedol Abergele, ger Ysgol Emrys Ap Iwan, gan ddechrau ar nos Iau, Mawrth 2il am 7:00pm.
I gofrestru ffoniwch Menter Iaith Conwy ar 01492 642357, neu Coleg Cymunedol Abergele ar 01745 828100 mor fuan ag sy'n bosib.