Gwersi Sbaeneg a Ffrangeg drwy'r Gymraeg!

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Gwersi Sbaeneg a Ffrangeg drwy'r Gymraeg!

Postiogan meirion » Gwe 06 Ion 2006 10:38 am

Mae Menter Iaith Conwy wedi trefnu rhagor o wersi Sbaeneg a Ffrangeg drwy'r Gymraeg.
Gyda gwersi llwyddiannus yn cael eu cynnal yn Llanrwst ar hyn o bryd, rydym wedi penderfyny dechrau cyrsiau Sbaeneg a Ffrangeg drwy'r Gymraeg ar y Glannau.

Mi fydd Gwers Ffrangeg drwy'r Gymraeg yn cael ei gynnal yn Adeilad Cwmni Penllan, ar Ffordd Y Pentref yn Llanfairfechan, gan ddechrau ar nos Fawrth, Chwefror 28 am 7:00pm. Mae'r lleoliad yn addas ar gyfer trigolion Sir Conwy, a hefyd i drigolion ardaloedd Caernarfon, Bangor, Ynys Mon ayyb.
I gofrestru eich enw ffoniwch Menter Iaith Conwy ar 01492 642357 mor fuan ag sy'n bosib.

Mi fydd Gwers Sbaeneg drwy'r Gymraeg yn cael ei gynnal yng Ngholeg Cymunedol Abergele, ger Ysgol Emrys Ap Iwan, gan ddechrau ar nos Iau, Mawrth 2il am 7:00pm.
I gofrestru ffoniwch Menter Iaith Conwy ar 01492 642357, neu Coleg Cymunedol Abergele ar 01745 828100 mor fuan ag sy'n bosib.
meirion
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 136
Ymunwyd: Gwe 07 Tach 2003 10:47 am
Lleoliad: Llanrwst

Postiogan Menter Iaith Conwy » Maw 14 Chw 2006 4:18 pm

Mae dal llefydd ar ol ar y cwrs Sbaeneg yng Ngholeg Cymunedol Abergele, i gofrestru eich enw, ffoniwch 01754 828100 cyn 5:00pm, dydd Mercher, Mawrth 1af!
Menter Iaith Conwy
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 94
Ymunwyd: Gwe 13 Ion 2006 9:46 am
Lleoliad: yn y Swyddfa

Postiogan Dwi'n gaeth i gaws » Maw 14 Chw 2006 4:33 pm

mae gen i ddiddordeb ond oes na rhywun yn dod o ardal Bangor?! problem trafnidiaeth!
blew
Rhithffurf defnyddiwr
Dwi'n gaeth i gaws
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 782
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 6:38 pm
Lleoliad: yn y dwr

Postiogan Menter Iaith Conwy » Iau 02 Maw 2006 2:49 pm

Gwersi Sbaeneg oedd i fod heno yn Abergele, sef nos Iau, Mawrth 2il, wedi eu gohirio oherwydd y tywydd, ond mi fyddan nhw yn cychwyn nos Iau nesaf, sef Mawrth 9fed am 7:00pm.

Os oes awydd ganddoch wneud y Cwrs, cofiwch ffonio Coleg Cymunedol Abergele ar 01745 828100.
Menter Iaith Conwy
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 94
Ymunwyd: Gwe 13 Ion 2006 9:46 am
Lleoliad: yn y Swyddfa


Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron