gan Seonaidh/Sioni » Sul 03 Chw 2008 9:53 pm
'D w i ddim yn deall yr holl stwff am Yr Ynys Gymylog (An t-Eilean Sgitheanach). Tybed fod "Skye", "Sgitheanach" ayb yn tarddu o'r Hen Norseg "Sky", sy'n golygu "cwmwl" - ac sy wedi rhoi'r gair "sky" i'r Saesneg! Mae hynny'n dweud rhywbeth am y tywydd ym Mhrydain oes y Feicingiaid... Serch hynny, erbyn hyn mae mwy o fewnfudwyr yn aros yn yr ynys honno nac sydd o "Sgitheanaich".
Mae hawl i bawb gael eu haddysgu - ond addysg sy'n bwysig, nid iaith yr addysg. Os bydd mwyafrif pobl rhyw leoliad yn siarad iaith X - neu hyd yn oed leiafrif sylweddol - mae'n gwneud sens i addysg yn eu hiaith fod ar gael. Ac, wrth gwrs, lle mae dwy iaith yn cael eu harfer mewn ardal, dylai addysg yn y naill iaith gynnwys y llall.
A bheil thu gam aithneachadh?