Dydi budd pobl Cymru ddim yn golygu amddiffyn y diwylliant Cymraeg?! Mae'n debyg ei bod yn anheg i ofyn i PC siarad yn Gymraeg a'r cyfyrngau Saesneg, ond beth am wneud safbwynt a siarad yn Gymraeg a defnyddio is-deitlau?
Dylid o leia disgwyl i AC siarad cymraeg yn y siambr, yn enwedig y rheini sy'n gallu'r iaith. Mae o'n gwylltio fi i glwad IWJ yn siarad saesneg efo Rhodri Morgan.
I fynd nol at y stori wreiddiol yn y Times, y pwynt ddylid ei wneud ydi y dylai'r plant gael yr un hawl i gael eu addysg yn y Gaeleg ac y dylent yn Saesneg. Dyna pam y mae galw am goleg ffederal yng Nghymru, er-mwyn gallu cael addysg uwch yn yr iaith mae pobl yn dymuno ei chael.
Diddorol fyddai dod a'r edefyn yma i sylw. Prawf ydi hyn efallai na all dwy iaith ffynu. Byddai polisi unieithog yn golygu mae addysg Gaeleg yw'r unig ddewis ar gyfer addysg craidd, fyddai yn y tymor hir yn galluogi'r wlad i weithredu drwy gyfrwng yr iaith honno.