Gaeleg yr Alban a thwpdra di-derfyn y Times

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Gaeleg yr Alban a thwpdra di-derfyn y Times

Postiogan Dili Minllyn » Llun 13 Chw 2006 9:19 pm

Ai hon yw erthygl fwyaf twp y flwyddyn? Mae golygydd y Times wedi mynd ati i bardduo rhyw Murdo Macleod, lleafrydd dros addysg Aeleg i blant yr Alban. Dyma bechod anfaddeuol Mr Macleod:
The Times a ddywedodd:He says incomers to his corner of the UK should be obliged to conform to the cultural, educational and linguistic requirements of the Gaidhealtachd. If they want to live in Sleat, that means having their children taught in Gaelic, not English.

A dyma ei eiriau eithafol a pheryglus ei hunan:
Murdo Macleod a ddywedodd:There must be a balance between the right of a people to a language, and the rights of the incomers to be who they want to be when they move here.

A dyma ymateb hynod bwyllog y papur:
The Times a ddywedodd:Mr Macleod fails the test of tolerance. If his comments were translated to West Yorkshire, or the Balkans, they would be exposed for what they are...There should be no no-go areas in the UK for people of any lawful belief, or culture, or language.

Dwi'n cymryd o ddarllen y paragraff hwn bod y Times o blaid ysgolion Wrdw yn Bradfod. Go brin! Dyma'r ergyd:
The Times a ddywedodd:Nobody in the UK should be denied the right to have their child educated locally in English.

Diolch Nic Dafis am bwyntio't ffordd tuag at y stori hon.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Emrys Weil » Gwe 10 Maw 2006 8:45 pm

Roedd eitem ar hyn ar Newyddion BBC Prydain-oll neithiwr, gyda'r gohebydd yn cyfweld a boi oedd o blaid ysgol Aeleg. Hwnnw'n siarad mewn gaeleg bob gair, gydag is-deitlau. Nawr dyma i chi gynsail. Os oes angen cyfweld a Siaradwr(aig) Cymraeg am rywbeth ar newyddion Prydain-oll y bocs (nid jest am yr iaith), gellir nawr bwyntio at yr enghraifft hwn er mwyn cyfiawnhau is-deitlo.
Pan gyrhaeddaswn ganol gyrfa'n bywyd,
Mewn coedwig dywell, cefais i fy hunan;
Oherwydd ynddi'r union ffordd gollasid.
Rhithffurf defnyddiwr
Emrys Weil
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 410
Ymunwyd: Gwe 16 Gor 2004 8:02 pm

Postiogan gronw » Sul 12 Maw 2006 3:21 pm

waw, diddorol Emrys Weil. bydde hyn yn wych! annhebyg o ddigwydd, wrth gwrs. cofio clywed bod yr archdderwydd wedi dweud na fyddai'n gwneud cyfweliad saesneg, falle mai fe fydd y cyntaf i gael ei isdeitlo wrth siarad cymraeg ar y newyddion saesneg..?
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 7:12 pm

Postiogan Tegwared ap Seion » Sul 12 Maw 2006 3:32 pm

ond dim ond ar faes yr eisteddfod.
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan nicdafis » Sul 12 Maw 2006 4:16 pm

Faint o bobl sy wir wedi mynnu siarad Cymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Re: Gaeleg yr Alban a thwpdra di-derfyn y Times

Postiogan Blewyn » Sul 12 Maw 2006 5:13 pm

Dili Minllyn a ddywedodd:Dyma'r ergyd:
The Times a ddywedodd:Nobody in the UK should be denied the right to have their child educated locally in English.


Sydd yn golygu y dylia unrhyw riant Saesneg eu iaith gael yr hawl i fynnu bod yr ysgol lleol yn defnyddio Saesneg yn hytrach na Cymraeg, dim ots faint o rieni sydd eisiau Cymraeg ?

T'ydy addysg lleol drwy gyfrwng y Saesneg ddim yn hawl.
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Postiogan Glanyrafon » Llun 13 Maw 2006 1:52 pm

nicdafis a ddywedodd:Faint o bobl sy wir wedi mynnu siarad Cymraeg
Glanyrafon
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 34
Ymunwyd: Sad 04 Maw 2006 9:08 pm
Lleoliad: Cwmtawe Uchaf

Re: Gaeleg yr Alban a thwpdra di-derfyn y Times

Postiogan Huw Psych » Llun 13 Maw 2006 2:33 pm

Blewyn a ddywedodd:T'ydy addysg lleol drwy gyfrwng y Saesneg ddim yn hawl.

Dydi dysgu Saesneg ddim yn ran o'r cwricwlwm? Mi o'n i dan yr argraff nad oedd dim rhaid rhoi addysg drwy gyfrwng y saesneg, dim ond dysgu'r pwnc?!

Pwrpas Plaid Cymru yw hyrwyddo Cymru trwy ennill etholidau. Mae pob etholaeth yn cynnwys siardwyr Cymraeg a rhai di-Gymraeg felly mae rhaid cyfathrebu mor uniongyrchol a phosib
Rhithffurf defnyddiwr
Huw Psych
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1205
Ymunwyd: Iau 13 Hyd 2005 3:05 pm
Lleoliad: Ty'n Twll, Gwlad y Rwla

Re: Gaeleg yr Alban a thwpdra di-derfyn y Times

Postiogan Glanyrafon » Llun 13 Maw 2006 3:24 pm

os mae'r diwilliant Cymreig ydi'r egwyddor drwy'r diwylliant y dylid cyfathrebu!


Fel y dywedais i nid Diwylliant Cymraeg yn unig yw "egwyddor" Plaid Cymru ond buddion pobl Cymru yn gyffredinol. Felly mae rhaid siarad iaith yr etholwyr i ennill pleidleisiau - yn drosiadol ac yn llythrennol ar raglenni Sasneg.

Ond i wleidyddion etholedig yn unig y mae hwnna yn perthyn. Fel unigolion ac fel cynrychiolwyr sefydliadau Cymraeg a Chymreig rwy'n credu y byddai'n syniad ardderchog i fynnu siarad yn Gymraeg os oedden ni'n dymuno.
Glanyrafon
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 34
Ymunwyd: Sad 04 Maw 2006 9:08 pm
Lleoliad: Cwmtawe Uchaf

Re: Gaeleg yr Alban a thwpdra di-derfyn y Times

Postiogan Blewyn » Maw 14 Maw 2006 12:12 am

Glanyrafon a ddywedodd:Fel y dywedais i nid Diwylliant Cymraeg yn unig yw "egwyddor" Plaid Cymru ond buddion pobl Cymru yn gyffredinol.

Mae hyn yn nonsens llwyr. Heb y diwylliant ieithyddol Gymraeg, d'oes'na ddim Cymru. Os ydy'r wlad yn troi yn Saesneg, waeth iddi fod yn ranbarth o Loegr ddim, a waeth iddi gael ei redeg felly ddim, o Lundain.
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Nesaf

Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai