Rwy'n siwr mod i fel y nifer wedi fy magu adref yn y Gymraeg. Nes i ddim dechre dysgu saesneg yn swyddogol tan o'n i'n 7 er bod byw yn Ne Cymru'n golygu fy mod wedi dysgu cryn dipyn.
Rwy wastod di ystyried fy hun yn gwbl ddwyieithog ac yn ystyried fy hun yn siarad dwy iaith cynhenid. Yn sicr bydde rhywun yn ei weld hi'n annodd - wrth wrando arno fi a fy ffrind o'm mhentre sydd ddim yn meddu ar y Gymraeg - pa un sydd yn siarad cymraeg. Er hyn, yn ddiweddar rwy di sylwi fy mod yn gwneud ambell i wall gramadegol yn y saesneg na baswn yn ei wneud os na byddwn yn siarad Cymraeg.
Un enghraifft yw fy mod yn cymysgu'r defnydd o 'lend' a 'borrow' e.e. 'can you borrow me that?', 'I've just lent his car'. Enghraifft arall yw'r ffaith bo fi'n defnyddio 'dinner' am y pryd o fwyd canol dydd gan fy mod yn meddwl am amser cinio.
Unrhyw un arall yn gwneud camgymeriadau tebyg? Beth yw nhw?