Faint o chi Faeswyr sy'n siarad Sbaeneg? Fi wastod yn ei ffeindio'n ddiddorol i weld pa fath o Spaeneg i chi 'di ddysgu neu yn dysgu. Nes i ddysgu yn B.A yr Ariannin ac ma'n sbaeneg i yn wahanol iawn i'r un ewropeaidd. Rwy'n defnyddio 'vos' yn hytrach na 'tu' ac ma'r ferf yn newid o ganlyniad:
Tu eres = Vos sos
Tu tienes = Vos tenes
Yn ogystal rwy'n ehangu 'y' a 'll' yn wahanol gyda'r ddau yn gwneud swn fel 'si' yn y gymraeg. Felly ma 'yo' yn cael ei ehangu fel 'sio' 'mayonesa' fel 'masionesa' a 'mallorca' fel 'masiorca'.
Rhai o chi wedi cael y profiad o geisio deall sbaenaidd 'estron'?