sanddef rhyferys a ddywedodd: Dylai'r UE sefydlu rhyw fath o gyfnewid rhwng ysgolion Ewrop i greu diddordeb mewn ieithoedd tramor.
mae'r almaen yn cynnig ysgoloriaethau i fynd yno ers blynyddoedd. ma ganddyn nhw raglen o'r enw PAD a DAAD sy'n cynnig grantiau i fyfyrwyr ysgol a phrifysgol i fynd i'r almaen. mae'n deillio o angen yr almaen i hysbysebu i weddill y byd nad yw'r wlad yn llawn natsiaid.
mae'n wych o beth -pan o'n i'n 16 ces i fis yn teithio o amgylch yr almaen mewn grwp o bobol o bob man o'r byd ar draul llysgenhadaeth yr almaen, dim ond am sgrifennu paragraff yn egluro pam mod i ishe dysgu almaeneg! Y broblem yw mai dim ond un disgybl o bob ysgol oedd yn cael trio, a dim ond lle i 8 o Brydain odd i ga'l.
O ganlyniad i'r trip ma, es i i stydio ym Merlin ac wi'n itha obsesd da'r lle, yn treulio hanner yn amser yn meddwl am ffyrdd i fynd na!
PAD
DAAD
(sori, sai'n gwbod shwt i osod lincs)
Ond o mhrofiad i o ddysgu ieithoedd tramor, prin iawn yw'r rhai sy'n gwneud, ac ma'r mwyafrif o'r dynion sy'n trafferthu yn hoyw! (y rhai sy'n neud almaeneg ta beth!)