Cymraeg y Wladfa

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan jammyjames60 » Sad 08 Gor 2006 11:24 am

Pwnc diddorol iawn. Rhyfedd bod rhywun yn yr edefyn yma wedi dweud nag yn y cannoedd mae siaradwyr cymraeg yn Yr Wladfa erbyn hyn oherwydd yn ol wikipedia, mae siaradwyr Cymraeg yn Y wladfa oddeutu 25,000. Pwy sydd yn anghywir?
Rhithffurf defnyddiwr
jammyjames60
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 681
Ymunwyd: Llun 07 Tach 2005 11:19 pm
Lleoliad: Felinheli, Gogledd Cymru

Postiogan Hogyn o Rachub » Sad 08 Gor 2006 2:45 pm

Wir-yr, paid cymryd unrhywbeth ti'n ddarllen ar Wikipedia yn ganiataol!
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan jammyjames60 » Sad 08 Gor 2006 5:31 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Wir-yr, paid cymryd unrhywbeth ti'n ddarllen ar Wikipedia yn ganiataol!


Dwi'n cymeryd nad ydy Wikipedia yn iawn felly? :?
Rhithffurf defnyddiwr
jammyjames60
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 681
Ymunwyd: Llun 07 Tach 2005 11:19 pm
Lleoliad: Felinheli, Gogledd Cymru

Postiogan Llio Mad » Sad 08 Gor 2006 8:27 pm

Dwi'n gweithio efo merch sydd wedi symud o'r wladfa i Gymru, er mwyn gwella ei chymraeg a'i Saesneg. Nesi'm twiggio i ddechra, pan ddudodd hi ei bod hi'n cefnogi Ariannyn yn y World Cup, tan esboniodd hi ei bod hi'n dod o gymuned Gymraeg yn Ariannyn. Wedyn nesi ddechra sylwi mwy ar yr acen Sbaeneg. Mae'n reit rhyfadd gwrando arni'n siarad cymraeg efo acen mor wahanol, ond eto yn cweit cwl. Mae'n gret cael clywed Cymraeg hollol bur ganddi, heb ei ddifetha gan fratiaith fel bobl yr ardal yma (yn cynnwys fi). Hefyd, mae'n reit rhyfadd 'nabod rhywun sy'n rhugl yn y Gymraeg, ond ofnadwy o patchy ar y Saesneg.
GOLCHI MURSEN?! Dydi Mursen ddim yn hoffi cael ei golchi, siwr iawn! Pwy erioed glywodd am rywun yn golchi cath? Ffwrdd â thi, y gwalch bach drwg!-Angharad Tomos (Rwdlan)
Rhithffurf defnyddiwr
Llio Mad
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 109
Ymunwyd: Sul 02 Hyd 2005 1:44 pm
Lleoliad: Byd Bach Fy Hun

Postiogan Leusa » Maw 11 Gor 2006 11:58 am

Mae yna ddyn ifanc o Esquel draw am yr ailwaith yma yn Llan, yn aros am ychydig fisoedd amwni. Mae ei Gymraeg o'n berffaith - anodd iawn dweud y gwahaniaeth heblaw am y cyffyrddiad sbaeneg i'r acen !
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Postiogan Hogyn o Rachub » Maw 11 Gor 2006 12:13 pm

jammyjames60 a ddywedodd:
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Wir-yr, paid cymryd unrhywbeth ti'n ddarllen ar Wikipedia yn ganiataol!


Dwi'n cymeryd nad ydy Wikipedia yn iawn felly? :?


Byddwn i'n amau'n gryf bod hynna faint o bobl yn siarad Cymraeg yn y Wladfa. Y cyhoedd sy'n cyfrannu at Wikipedia, cofia, felly mae 'na lot o anwireddau yna.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan sanddef » Maw 11 Gor 2006 3:50 pm

Hyd y gwn i mae 'na tua 5000 o bobl yn y Wladfa sy'n siarad Cymraeg fel mamiaith. Dim syniad o nifer y dysgwyr, nac o faint o'r 5000 'na sydd wedi marw o henaint erbyn hyn.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan jammyjames60 » Llun 18 Meh 2007 3:48 pm

Be' 'di'r newydd am ysgolion Cymraeg yn Y Wladfa erbyn hyn? Faint ohonyn nhw sydd yna, a faint sydd ar y gweill?
Rhithffurf defnyddiwr
jammyjames60
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 681
Ymunwyd: Llun 07 Tach 2005 11:19 pm
Lleoliad: Felinheli, Gogledd Cymru

Nôl

Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai