Cymraeg y Wladfa

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cymraeg y Wladfa

Postiogan sanddef » Sad 18 Maw 2006 5:00 pm

Oes unrhywun sydd wedi cael profiad o Gymraeg y Wladfa?
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Mali » Sad 18 Maw 2006 5:12 pm

Methu mynd i mewn i'r linc Sanddef :?
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Tegwared ap Seion » Sad 18 Maw 2006 9:42 pm

mi wneith hwn.
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan Mali » Sul 19 Maw 2006 12:13 am

Diolch Teg a diolch Sanddef :D
Diddorol iawn! Wedi mwynhau darllen am Gymraeg y Wladfa, ac wedi gwneud nodyn o lyfr Cathrin Williams. Llyfr bach handi petawn yn teithio yno rhywbryd.
Heb fod yn y Wladfa ond wedi cwrdd
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Madrwyddygryf » Sul 19 Maw 2006 9:06 am

Do mi es i Dyffryn Chubut nol Ebrill '03. Hynod o ddiddorol, mi fuaswn yn dweud mae na ta cwpl o gannoedd o bobl sydd yn dal yn siarad Cymraeg yna. Ond mae nhw yn ei siarad fel eu ail-iaith erbyn hyn.

Roedd y llyfr roeddet yn son am yn dy linc wedi creu dipyn o stwr yn yr ardal, gyda'r farn 'onest' yr awdures. Rhai o'r bobl yn anhapus beth oedd hi wedi dweud !
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Y Fampir Hip Hop » Llun 20 Maw 2006 5:42 pm

Yn gem y Llewod yn erbyn yr Ariannin yn G'Dydd llynedd, oeddeni'n ishte ar bwys rhyw foi o'r Wladfa, gyda rhyw hen wr o'r Gogledd odd yn cyfeithu bethe Saesneg i'r Gymraeg iddo fe.
Odd e'n sioc fawr iawn i mi glywed rhywun yn dweud ''Mae'r gwaed yn llifo o'i ben'' mewn acen Sbaeneg drwm pan oedd Lewis Moody (fi'n credu) di gal anaf! :ofn:

Licen i mynd i'r Wladfa rhywbryd. Cofio darllen testun yn y WM amdano rhyw ddyn o Ystalyfera yn myn mas i Buenos Aires yn y '70au er mwyn gwel y Wladfa. Dryches e yn llyfyr ffon am y 'Jones' cyntaf a wetyn aeth e i aros da'r teulu am tair mis! :)"Never trust a man in a blue trench coat, Never drive a car when you're dead..."

|Flickr|
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fampir Hip Hop
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1129
Ymunwyd: Iau 24 Tach 2005 4:42 pm
Lleoliad: Abercraf, Cwm Tawe Ucha'

Postiogan Chwadan » Llun 20 Maw 2006 7:55 pm

Dwi'n cofio siarad efo cefnder fy nhaid yn Nhrevelin, ac yn trio siarad Cymraeg eitha graenus am nad oedd o'n siarad Saesneg. Mae'i Gymraeg o yn sownd yn Traws circa 1912 (ond efo acen Sbaeneg) lly oedd rhaid trio meddwl pa eiria Saesneg fasa nhw'n ddefnyddio bryd hynny sydd a chyfieithad Cymraeg erbyn hyn. Un enghraiff oedd pitshys - doedd "eirin gwlanog" yn golygu dim iddo fo :)
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan caws_llyffant » Maw 28 Maw 2006 3:05 pm

Dwi'n cofio siarad efo Gloria Dolores Jones ( ryw enw felna) yn Nghymru
pan oeddwn i'n hogan o 17 . Roedd fy nhad am yrru fi i Chubut am flwyddyn . Doedd Gloria ddim yn medru Saesneg , ond roedd hi'n medru gweiddi yn y Gymraeg am y ffaith bod y Malvinas yn perthyn i Argentina . Roedd hwn circa 1981 /82 wrth gwrs . Dwi ddim yn cofio sut oedd hi'n siarad yn ieithyddol , mond am y pwnc . Roedd pawb yn dallt beth bynnag . Fy nhad yn enwedig .

Dyna pam ddaru fi ddim fynd i Chubut . Bechod am y rhyfel 'na .
"Does dim eisio mynd dros ben wal , medda finna . Mae dyn sioe wedi deud cawn ni gario dwr o Rafon iddo fo a mynd i mewn am ddim . "
caws_llyffant
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 357
Ymunwyd: Iau 17 Tach 2005 2:44 pm
Lleoliad: ar y ffordd i'r trofannau

Postiogan docito » Maw 28 Maw 2006 3:35 pm

Cofio dal bws o BA i Drelew. Wedi bod yn BA am 8 mis ond byth di bod yn y wladfa so dim syniad beth i ddisgwyl. Tra bod y bws yn stopio mewn un o'r gwsanaethau ma na ddyn yn gofyn i fi:

'Buenos Tardes. Perdoname, pero Sos Britanico?' (pnawn da. sori ond wyt ti'n Brydeiniwr?)
'Si' :P
'De qual parte?' (Pa rhan?)
'Gales' (Cymru)
'La verdad!!! Wyt ti'n siarad cymraeg?'


Cafodd y dyn yma ei eni a'i fagu yn Trevelin ond pan yn 18 fe symudodd e i BA ac yna i Cordoba. Odd e ar ei ffordd i Bahia Blanca i gwrdd a ffrindie (tref mewn rhan arall o'r wlad) a heb fod i Drevelin na'r wladfa ers ugain mlynedd. Ma'r ddau o'n i'n dechre siarad a cal y sgwrs rhyfedda yn fy mywyd. Doedd e (meddwl ma rhwbeth Jones oedd e) heb siarad cymraeg da unrhyw un ers 15 mlynedd ond am ar y ffon weithie da'i frawd er bod y ddau yn dieddol o newid i Sbaeneg yng nghwmni eu gilydd bellach. Rodd y sgwrs yn gymysgedd rhyfeddol o Gymraeg a Sbaeneg gyda fe'n aml gorfod troi at y sbaeneg achos ei anghof. Cofio un pwt o'r sgwrs.

Fi: 'Ma Buenos Aires yn anferth'
Fe: 'Claro, cymaint o pobl, ma'r ddinas yn orlawn, tanta gente, disculpa, llawer o bobl'


yn y gwasanaethau nes i ddweud
'sori, fi off i'r toilet'
Dodd e ddim yn deall gair.

Beth bynnag dychmygwch yr anti cleimacs o gyrradd Gaiman ar ol y profiad yma yn disgwyl ffeindio Cymraeg ym mhob man. Am siom
I'm a great lover, I'll bet.

Probably the toughest time in anyone's life is when you have to murder a loved one because they're the devil.

You know what I hate? Indian givers... no, I take that back
Rhithffurf defnyddiwr
docito
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 900
Ymunwyd: Maw 13 Rhag 2005 10:58 am
Lleoliad: jyst off albany rd

Postiogan caws_llyffant » Maw 04 Ebr 2006 9:16 pm

Di'r cyd-ddigwyddiad 'ma ddim cweit yn yr un safon , Docito , ond dwi'n cofio clywed pobol yn siarad Cymraeg ar y traeth yn Cannes . Ddaru fi nofio i fynny i un o'r dynion i ddweud helo , a dyma pob dim yn newid yn gyflym iawn i sesh ffoto .

Ond :crio: dyma fi'n sylweddoli bod nhw ddim ond eisiau ffoto o fi yn topless wrth ochr y Cymro a oedd yn nofio achos roedd rhaid gael ffoto o ' Bryn efo topless girl yn Cannes' . Roedd y ffaith bod y 'topless girl yn Cannes' yn Gymraes yn eitem i anghofio .

A rwan , yn
"Does dim eisio mynd dros ben wal , medda finna . Mae dyn sioe wedi deud cawn ni gario dwr o Rafon iddo fo a mynd i mewn am ddim . "
caws_llyffant
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 357
Ymunwyd: Iau 17 Tach 2005 2:44 pm
Lleoliad: ar y ffordd i'r trofannau

Nesaf

Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai

cron