Cofio dal bws o BA i Drelew. Wedi bod yn BA am 8 mis ond byth di bod yn y wladfa so dim syniad beth i ddisgwyl. Tra bod y bws yn stopio mewn un o'r gwsanaethau ma na ddyn yn gofyn i fi:
'Buenos Tardes. Perdoname, pero Sos Britanico?' (pnawn da. sori ond wyt ti'n Brydeiniwr?)
'Si'
'De qual parte?' (Pa rhan?)
'Gales' (Cymru)
'La verdad!!! Wyt ti'n siarad cymraeg?'
Cafodd y dyn yma ei eni a'i fagu yn Trevelin ond pan yn 18 fe symudodd e i BA ac yna i Cordoba. Odd e ar ei ffordd i Bahia Blanca i gwrdd a ffrindie (tref mewn rhan arall o'r wlad) a heb fod i Drevelin na'r wladfa ers ugain mlynedd. Ma'r ddau o'n i'n dechre siarad a cal y sgwrs rhyfedda yn fy mywyd. Doedd e (meddwl ma rhwbeth Jones oedd e) heb siarad cymraeg da unrhyw un ers 15 mlynedd ond am ar y ffon weithie da'i frawd er bod y ddau yn dieddol o newid i Sbaeneg yng nghwmni eu gilydd bellach. Rodd y sgwrs yn gymysgedd rhyfeddol o Gymraeg a Sbaeneg gyda fe'n aml gorfod troi at y sbaeneg achos ei anghof. Cofio un pwt o'r sgwrs.
Fi: 'Ma Buenos Aires yn anferth'
Fe: 'Claro, cymaint o pobl, ma'r ddinas yn orlawn, tanta gente, disculpa, llawer o bobl'
yn y gwasanaethau nes i ddweud
'sori, fi off i'r toilet'
Dodd e ddim yn deall gair.
Beth bynnag dychmygwch yr anti cleimacs o gyrradd Gaiman ar ol y profiad yma yn disgwyl ffeindio Cymraeg ym mhob man. Am siom
I'm a great lover, I'll bet.
Probably the toughest time in anyone's life is when you have to murder a loved one because they're the devil.
You know what I hate? Indian givers... no, I take that back