Cyfrif : y drefn Geltaidd yn y Ffrangeg .

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Mr Gasyth » Iau 27 Ebr 2006 11:40 am

caws_llyffant a ddywedodd:Beth am y ffordd syml o gyfri yn y Gymraeg , 'dau ddeg' yn lle 'ugain' er enghraifft . Be di'r hanes tu
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan pads » Iau 27 Ebr 2006 12:01 pm

Wedi ffeindo hwn:
Bilingualism and Number in Wales, Gareth Roberts, Bangor

Before the nineteenth century, references in the literature to the use of the D [decimal] system are infrequent and uncoordinated. Developments during the nineteenth century gave rise to feelings that a non-vigesimal system could be advantageous.

... an important impetus seems to have arisen from the one domain in which Welsh was supreme
Cardiff - a rift in space and time
Rhithffurf defnyddiwr
pads
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 249
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 9:22 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan sanddef » Iau 27 Ebr 2006 12:25 pm

Geraint a ddywedodd:Dwi'n cofio rhywun, dim yn gwybod pwy oedd o, rhywun o Blaena, yn esbonio fod y rhifau un i bump y basgwyr yn debyg i enwau bysedd cymraeg

1 bat - bawd
2 bi ~ biga -?
3 hiru ~ hirur - hir (y bys hiraf)
4 lau ~ laur - ?
5 bost ~ bortz - bach?

Rhywun arall wedi clywed hyn, neu a'i ond cyd-ddigwyddiad ma rhywun wedi sylwi ar ydyw?


Diddorol. Diddorol hefyd ydy sylwi bod y rhifyn "ugain" (y rhifyn mwyaf pwysig mewn trefn o gyfrif fesul ugain) yn debyg i'r "hogei" (a ynganir "ogei") Basgeg.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Emrys Weil » Iau 27 Ebr 2006 6:25 pm

sanddef rhyferys a ddywedodd: Diddorol hefyd ydy sylwi bod y rhifyn "ugain" (y rhifyn mwyaf pwysig mewn trefn o gyfrif fesul ugain) yn debyg i'r "hogei" (a ynganir "ogei") Basgeg.


Mae hyn i gyd yn eithriadol o ddiddorol.

Mi'r o'n i wastad wedi tybio fod ugain (ac hugent Llydaweg) yn dod o viginti Lladin, yr un tarddiad a vingt Ffrangeg, ond tybed?

Ficheadh sydd yng Ngaeleg yr Alban (na ddylanwadwyd arni fawr gan Ladin).
Pan gyrhaeddaswn ganol gyrfa'n bywyd,
Mewn coedwig dywell, cefais i fy hunan;
Oherwydd ynddi'r union ffordd gollasid.
Rhithffurf defnyddiwr
Emrys Weil
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 410
Ymunwyd: Gwe 16 Gor 2004 8:02 pm

Postiogan sian » Iau 27 Ebr 2006 7:24 pm

Ro'n i'n cofio clywed bod bugeiliaid yng ngogledd Lloegr yn cyfri defaid gan ddefnyddio system debyg i'r Gymraeg tan yn gymharol ddiweddar felly fe roddais i "cyfrif", "defaid" a "Cumbria" yn Gwgl a 'co beth ffindies i.

Tydi maes-e yn ffynhonnell bob math o wybodaeth?!

Mae'r linc i Cyfri Defaid gan Geraint yn arbennig o ddiddorol.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Nôl

Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron