Tudalen 1 o 1

Llawysgrif Cernyweg Canol newydd wedi ei gyhoeddi

PostioPostiwyd: Mer 17 Mai 2006 3:54 am
gan mongvras
Yn 1999, fe ddaeth llawysgrif o ddrama Gernyweg anadnabyddus i'r golwg mewn Y Llyfrgell Genedlaethol yn Aber (wel, ple arall?). Erbyn hyn, mae'r testun wedi cael ei gyhoeddi am Gesva an Taves Kernewek (Bwrdd yr Iaith Gernyweg). Ma 'na gyfrol arall wedi ei baratoi am Y Llyfrgell, ond ni fydd ar gael cyn Mis Hydref 2006 'dwy'n credi.

http://www.howlsedhes.co.uk/bywnanske/

Mongvras

PostioPostiwyd: Gwe 06 Hyd 2006 7:26 pm
gan mongvras
Dwi wedi clywed fod rhywbeth yn Y Cymro 'r wythnos 'ma, am y gyfrol hon.

Oes 'na rhywun sy'n gallu cael cipolwg ohono a phostio manylion mwy? (Achos mae'n anodd iawn dod o hyd copi'r Cymro yng Ynghernyw! :? )

Diolch

PostioPostiwyd: Mer 11 Hyd 2006 9:57 pm
gan mongvras
mongvras a ddywedodd:Dwi wedi clywed fod rhywbeth yn Y Cymro 'r wythnos 'ma, am y gyfrol hon.


Dwi'n credi mai rhywbath (yn Saesneg) yn y Western Mail erbyn hyn. Oes 'na rhywun wedi ei weld? Hefyd, gwelewch :

http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/6036755.stm

PostioPostiwyd: Iau 12 Hyd 2006 12:09 pm
gan Geraint
Mae'n bosib weld y llawysgrif gwreiddiol fan hyn

Diddorol, mae'r llyfrgell efo'r hawlfraint, ond dwi ddim yn gweld llawer yn bod efo Bwrdd r Iaith Cernyweg yn ei gyhoeddi - byddai'r llyfrgell siwr o fod wedi cymryd blynyddoedd i wneud.

PostioPostiwyd: Iau 12 Hyd 2006 2:01 pm
gan Positif80
Legend has it that St Ke or Kea was an Irish-born monk who sailed to Cornwall on a floating boulder.


:ofn:

PostioPostiwyd: Iau 12 Hyd 2006 8:59 pm
gan mongvras
Positif80 a ddywedodd:
Legend has it that St Ke or Kea was an Irish-born monk who sailed to Cornwall on a floating boulder.

:ofn:


Felly yn dod a'r ffydd a'r sbort o 'surfing' (mordardha yn Cernyweg) yr un pryd! Mae mordardha yn swnio fel 'mort d'Arthur' hefyd, dyna beth od :?

Ond dwi isho gwbod beth oedd wedi ' sgwenni yn Y Cymro.