Reit, dwi wedi bod yn dysgu Sbaeneg ers tua dwy flynedd mewn dosbarthiadau nos. Fydd na ddim dosbarth arall rwan tan fis Hydref, felly dwi isio ffeindio rhyw adnoddau i fi gael ymarfer fel nad ydw i'n colli be dwi di ddysgu'n barod. Oes gan unrhywun wybodaeth am wefannau tebyg i dudalennau LearnWelsh y BBC ond yn Sbaeneg? Neu unrhyw raglenni Sbaeneg ar gyfer dysgwyr sy'n cael eu darlledu ar y we?
Mae'n un peth mynd dros ramadeg yn systematic ond fasa'n dda cael rhywbeth adloniadol, ond clir, i helpu fy motifesiyn! Hyd yn oed cartwns i blant ne rwbath! Siwr taw dyna ydi'n safon i!
Diolch
R