gan caws_llyffant » Mer 31 Mai 2006 3:51 pm
Kia Ora ( Aotearoa) Ia ora na ( Tahiti), Aloha ( Hawaii) Pencrwban !
Mae gen i ddiddordeb mawr yn yr iethoedd Polynesian . Roedd Cook yn medru dallt y Maori , diolch i Tupaia ei gyfieithydd o Tahiti . Mae'r iethoedd Polynesian yn debyg iawn felly . Mae'r Melanesians yn cael lot mwy o drafferth i ddallt yr iethoedd eraill Melanesian . Diddorol i weld bod y Melanesians o Caledonia Newydd yn defnyddio gair Polynesian i siarad am eu hunain - Kanak . A mae'r pobol Fiji yn edrych fel Melanesians , ond mae'r iaith Fiji yn iaith Polynesian .
Ac wrth gwrs , trwy'r gair Polynesian 'kumura' ( sweet potato) , mae na lot o bobl wedi trio profi bod y Polynesians yn dwad o'r de America yn wreiddiol ....( mae nhw'n rong ; mae genetics yn dangos bod nhw'n dwad o Taiwan )
Dwi o hyd yn bangio on am y peth , ond mae'r geiriadur (1844) y Cymro H.W. Williams yn dal i fod yn bwysig iawn yn Aotearoa . Mae'r Maori yn galw'r geiriadur ma ' Te Wiremu' , neu 'Y Williams' . Run peth yn Tahiti ; mae'r geiriadur Tahiteg y Cymro John Davies yn dal i fynd .
Mae'r psycho-linguistics yr iethoedd Polynesian tu ôl i'r amserau yn ddiddorol dros ben . Mua a muri er enghraifft . Ond , yn Tahiti , mae'r pobl ifanc yn defnyddio'r syniadau Ffrangeg yr amserau pan mae nhw'n siarad Tahiteg . Bechod . Ydi'r Maori ifanc yn wneud yr un peth hefo'r syniadau Saesneg tu ôl i'r amserau ?
Mae na air Polynesian yn y Gymraeg wrth gwrs - tatw , tattoo yn Saesneg , tatouage yn Ffrangeg , tatuaje yn Sbaeneg .... Mae'r gair 'vahiné' (Tahiteg) yn ran o'r iaith Ffrangeg , mae o yn y Robert . Vahine ( neu wahine yn Maori) = merch .
Te Wahine no Weera xxx
"Does dim eisio mynd dros ben wal , medda finna . Mae dyn sioe wedi deud cawn ni gario dwr o Rafon iddo fo a mynd i mewn am ddim . "