Yr Iaith Maori

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Yr Iaith Maori

Postiogan Pencrwban » Mer 31 Mai 2006 12:30 am

Pwy wedi clywyd o'r Iaith Maori?

Rydw i'n ei dysgu hi ym mhrifysgol. Mae hi'n dod o Seland Newydd/Aotearoa a mae hi'n siarad ers y bobl faori. Mae hi'n diddoreb achos te/nga=yr yng nghymraeg. Mae'r berfau yn dod ar dechrau'r ddedfryd. hi a fo/fe=ia ym Maori, felly dim ryw ym Maori.

Oes holiadau 'da ti am faori?
Pencrwban
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 59
Ymunwyd: Llun 23 Mai 2005 2:38 am
Lleoliad: Seland Newydd

Postiogan Tegwared ap Seion » Mer 31 Mai 2006 12:33 am

'Chydig o ddiddordeb gen i! Mae ffrind oedd yn 'rysgol efo fi yn ddinesydd yma ac yn Seland Newydd (Aotearoa?). Difyr iawn gweld bod ei phasbort yn gwbwl ddwyieithog!
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Re: Yr Iaith Maori

Postiogan nicdafis » Mer 31 Mai 2006 9:28 am

Pencrwban a ddywedodd: felly dim ryw ym Maori.


Sut maen nhw wedi goroesi mor hir 'te?

Sori, ond ys dywed y Sais, Words have gender; people have sex.

Ond am bedantiaid ieithyddol, sy heb ffrindiau, heb sôn am gariadon.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Rhys » Mer 31 Mai 2006 10:21 am

Bues i Aotearoa y llynedd. Mae brawd fy nghariad wedi symud draw yna a priodi Kiwi. Dim ond yn rhan ogleddol Ynys y Gogledd fues i, er bues lawr i Rotorua ble mae'r iaith yn weledol ar arwyddion siopau ac asiantaethau llywodraethol. Glywes i ddim Moari yn cael ei siarad yno ar y stryd, er ymwelwyr oedd rhan fwyaf o bobl yng nghanol y dref.

Pa ran o Aotearoa wyt ti'n byw Pencrwban?
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Yr Iaith Maori

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Mer 31 Mai 2006 2:14 pm

nicdafis a ddywedodd:
Pencrwban a ddywedodd: felly dim ryw ym Maori.


Sut maen nhw wedi goroesi mor hir 'te?

Sori, ond ys dywed y Sais, Words have gender; people have sex.

Ond am bedantiaid ieithyddol, sy heb ffrindiau, heb sôn am gariadon.


Cenedl, mun, cenedl. :winc:
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan caws_llyffant » Mer 31 Mai 2006 3:51 pm

Kia Ora ( Aotearoa) Ia ora na ( Tahiti), Aloha ( Hawaii) Pencrwban !

Mae gen i ddiddordeb mawr yn yr iethoedd Polynesian . Roedd Cook yn medru dallt y Maori , diolch i Tupaia ei gyfieithydd o Tahiti . Mae'r iethoedd Polynesian yn debyg iawn felly . Mae'r Melanesians yn cael lot mwy o drafferth i ddallt yr iethoedd eraill Melanesian . Diddorol i weld bod y Melanesians o Caledonia Newydd yn defnyddio gair Polynesian i siarad am eu hunain - Kanak . A mae'r pobol Fiji yn edrych fel Melanesians , ond mae'r iaith Fiji yn iaith Polynesian .

Ac wrth gwrs , trwy'r gair Polynesian 'kumura' ( sweet potato) , mae na lot o bobl wedi trio profi bod y Polynesians yn dwad o'r de America yn wreiddiol ....( mae nhw'n rong ; mae genetics yn dangos bod nhw'n dwad o Taiwan )

Dwi o hyd yn bangio on am y peth , ond mae'r geiriadur (1844) y Cymro H.W. Williams yn dal i fod yn bwysig iawn yn Aotearoa . Mae'r Maori yn galw'r geiriadur ma ' Te Wiremu' , neu 'Y Williams' . Run peth yn Tahiti ; mae'r geiriadur Tahiteg y Cymro John Davies yn dal i fynd .

Mae'r psycho-linguistics yr iethoedd Polynesian tu ôl i'r amserau yn ddiddorol dros ben . Mua a muri er enghraifft . Ond , yn Tahiti , mae'r pobl ifanc yn defnyddio'r syniadau Ffrangeg yr amserau pan mae nhw'n siarad Tahiteg . Bechod . Ydi'r Maori ifanc yn wneud yr un peth hefo'r syniadau Saesneg tu ôl i'r amserau ?

Mae na air Polynesian yn y Gymraeg wrth gwrs - tatw , tattoo yn Saesneg , tatouage yn Ffrangeg , tatuaje yn Sbaeneg .... Mae'r gair 'vahiné' (Tahiteg) yn ran o'r iaith Ffrangeg , mae o yn y Robert . Vahine ( neu wahine yn Maori) = merch .


Te Wahine no Weera xxx
"Does dim eisio mynd dros ben wal , medda finna . Mae dyn sioe wedi deud cawn ni gario dwr o Rafon iddo fo a mynd i mewn am ddim . "
caws_llyffant
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 357
Ymunwyd: Iau 17 Tach 2005 2:44 pm
Lleoliad: ar y ffordd i'r trofannau

Postiogan Pencrwban » Iau 01 Meh 2006 9:11 am

Rhys a ddywedodd:Bues i Aotearoa y llynedd. Mae brawd fy nghariad wedi symud draw yna a priodi Kiwi. Dim ond yn rhan ogleddol Ynys y Gogledd fues i, er bues lawr i Rotorua ble mae'r iaith yn weledol ar arwyddion siopau ac asiantaethau llywodraethol. Glywes i ddim Moari yn cael ei siarad yno ar y stryd, er ymwelwyr oedd rhan fwyaf o bobl yng nghanol y dref.

Pa ran o Aotearoa wyt ti'n byw Pencrwban?


Rydw i'n dod o Taranaki, ond rydw i'n byw ym Palmerston Gogledd. Lle rydw i'n efrydu Bioleg Planhigyn. Mae'r Brifysgol yn o'r enw Massey University.

Nö Taranaki au, engari e noho ana au kei Papaioea. Tênå hea e ako ana au i Koiora otaota. Ko Massey University te ingoa o te wananga.

Maori i eiriau Cymraeg
au - i, fi
engari - ond
noho - byw (ond nid hollol yr amser)
kei - yn, am
Tênå - dyma
hea - lle, ble
ako - efrydu, dysgu
koiora - bioleg
otaota - planhigyn, llysieuyn
ingoa - enw
wananga - prifysgol

Dyna bymtheg llythyrau ym Maori. Dyn nhw:
h k m n p r t w ng wh a e i o u
h fel h yng nghymraeg ond yn un dialect mae hi'n fel ' yn hawai'i
k fel c
m fel m
p fel p
r fel r yng nghymraeg
t fel t yng nghymraeg
w fel w yn Saesneg
ng fel ng yng ngymraeg ond nid fel ng ym finger yn Saesneg
wh fel ff
a fel a yn far yn Saesneg
e fel e yn steer yn Saesneg
i fel i ym fi
o fel o ym more yn Saesneg
u fel w yng Nghymraeg


NB: Alla i ddim ysgrifennu macronau ar y cyfrifiadur 'ma, felly rydw i wedi defnyddio marcau random ar y llafariaid.
Pencrwban
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 59
Ymunwyd: Llun 23 Mai 2005 2:38 am
Lleoliad: Seland Newydd

Postiogan HBK25 » Iau 01 Meh 2006 10:21 am

caws_llyffant a ddywedodd:Kia Ora


It's too orangy for crows! :D
Rhithffurf defnyddiwr
HBK25
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1876
Ymunwyd: Llun 18 Ebr 2005 2:42 am

Postiogan nicdafis » Iau 01 Meh 2006 10:22 am

(Sori am bedatiaeth ddoe. :wps:)

Faint o wahaniaeth sydd rhwng gwahanol tafodieithau Maori? Ydw i'n iawn i feddwl taw dim ond un iaith frodorol sydd yn Aotearoa, yn hytrach na channoedd sy yn Awstralia a taw hyn sy'n gyfrifol am statws gweddol yr iaith?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Pencrwban » Iau 01 Meh 2006 11:42 am

nicdafis a ddywedodd:(Sori am bedatiaeth ddoe. :wps:)

Faint o wahaniaeth sydd rhwng gwahanol tafodieithau Maori? Ydw i'n iawn i feddwl taw dim ond un iaith frodorol sydd yn Aotearoa, yn hytrach na channoedd sy yn Awstralia a taw hyn sy'n gyfrifol am statws gweddol yr iaith?


Am leiaf bach na Chymraeg rydw i'n meddwl. Fel y tafodieithiau mwy felly na eraill.

Mae n am ng 'da Tuhoe. Mae ' am h ac w' am wh 'da Taranaki a Wanganui. Mae k am ng 'da Ngai Tahu. Mae tafodieithiau llawer yn defnyddio geiriau gwahanol am y pethau unrhyw. Er rydw i'n ei meddwl nhw defnyddio'r adeiladau iaith sylfaenol unrhyw.

Mae'n ddrwg 'da fi. Mae fy Maori ddim yn gwala gynnyddus i gyfieithu'r bost 'ma i Maori.

Ychwaith ydy fy nghymraeg :D
Pencrwban
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 59
Ymunwyd: Llun 23 Mai 2005 2:38 am
Lleoliad: Seland Newydd

Nesaf

Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron