Mr Gasyth a ddywedodd:Mali a ddywedodd:Mr Gasyth a ddywedodd:
Krueger oedd yr Almaenwr - roedd ei feb yn gwerthu pianos ac yn rhoi gwersi yng ngwaelod yr ystad ddiwydiannol.
Cofio siop Krueger's ar Stryd y Dyffryn yn iawn . 'Roedd dwy ran iddi , un ar gyfer y pianos a'r llall ar gyfer recordiau ayb.
'Roedd carcharor rhyfel Almaeneg arall hefyd wedi setlo yn y dref ac yn berchen ar siop fferins ar Love Lane gyferbyn a'r hen sinema. Dwn i'm os ydio'n dal i droedio'r dref yn siarad efo fo 'i hun. Wedi marw bellach mae'n siwr.
Ddim help efo'r cwestwin gwreiddiol sori , cyn fy amser i!
Hm, mae'n rhaid mai yn ddiweddarach symudodd o i'r ystad diwydiannol ta. Dim cof am yr un ar Love Lane - ai siop Ann Owen wyt ti'n feddwl?
Roedd an lot fawr ian o bobl yn siarad efo'u hunain rownd Dinbych ers talwm o be dwi'n gofio
Mi roedd yna siop Pianos a cerddoriaeth yn y siop drws nesa i hen siop fy nain ar Love Lane. Mi geuodd hi rhyw 18 mlynedd yn nol mae'n siwr. Dwi'n cofio mae dyna oedd yne pan agorodd Nain ei siop hi ar ol symud o Symbol yn y Kwiks. Dwi'm yn gwbod os mae Kruggers oedd hwnnw hefyd?
Dwi'm yn cofio unrhyw siop fferins ble oedd siop Ann Owen, oeddwn i'n meddwl ei bod hi di bod yno ers blynyddoedd maith fel delicatessen. Mi oedd gan aelod o fy nhelulu Siop Fferins ar Post Office Lane ar un adeg hefyd.
A mae ne nifer fawr o bobl yn dal i siarad a'u hunain yn Ninbych!
O ran Carcharorion Rhyfel, mi oedd yna Wersyll i Garcharorion Rhyfel Eidalaidd wrth Galltegfa ar y ffordd allan o Rhuthun i Glawddnewydd, Clocaenog ac ati. Mae olion y gwersyll hwnnw yn dal i fod yno heddiw. Dwi'm yn cofio clywed bod rhai wedi eu cadw yng Ngharchar Rhuthun - nid Ffatri 'Munitions' oedd o yn ystod y rhyfel?