Mr Gasyth a ddywedodd:Des o hyd i'r garred fedd yma ym Mynwent Dinbych yn ddiweddar. mae'n sefyll allan am fod llun arni ac am ei bod mewn iaith sy'n hollol ddiarth i mi, ond sy'n ymddangos yn Slafaidd.
Os allai rywyn roi cyfieithiad, a dweud wrthyf beth yw hanes y creadur buaswn yn ddiolchgar
Pwyleg yw'r iaith heb os. Mae'r geiriau yn y llun yn aneglur iawn. Syllodd tri phwyliad arno i fi neithiwr. Dyma eu cynnig gorau:
Wladyslaw Franciszek Musial, is-gapten yn y nawfed brigad arfog yn yr adran arfog gyntaf. Wedi ei glwyfo mewn brwydr a'r lluoedd Almaenig yn 1944 bu farw 12 mlynedd yn ddiweddarach ar ol llawer o ddioddfaint yn 1956 yn 47 oed. Er coffadwriaeth am fy annwyl frawd. M? ( Maria? Marian? Marta? )