Tudalen 1 o 1

cylchgronna ffrangeg

PostioPostiwyd: Llun 14 Awst 2006 5:06 pm
gan sara
angen help rhywun plis - meddwl yda ni, fel dosbarth ffrangeg (dim ond y merched ynddo fo) y basa hi'n eitha syniad cal cylchgrawn modern o ffrainc - wbath sy'n son am betha ar y funud yn hytrach na chylchgronna hynnach a haws ar gyfer dysgwyr. Yn anffodus mae na anghenion a dwnim pa gylchgrawn fasa ora:-

*eitha hawdd, ddim rhy anodd i wneud ni isio peidio siarad ffrangeg byth eto
*ddim mor hawdd fel ein bod ni ddim yn dysgu bygyr ol
(i chi gal gwbod y gradd, da ni gyd yn gneud ein lefel A ffrangeg flwyddyn nesa, a bob un ohonnom ni di cal a* yn tgau, dwnim am AS eto am resymau amlwg)
*eitha rhad - mond tair ohona ni ar y mwya fydd yn gallu rhannu'r gost
*oleia 1 erthygl ddiddorol bob mis, am wbath o bwys, yn hytrach na gossip ne ffasiwn

Diolch am ynrhyw help!

Re: cylchgronna ffrangeg

PostioPostiwyd: Maw 10 Ebr 2007 8:49 pm
gan Heledd Wyn
sara a ddywedodd:angen help rhywun plis - meddwl yda ni, fel dosbarth ffrangeg (dim ond y merched ynddo fo) y basa hi'n eitha syniad cal cylchgrawn modern o ffrainc - wbath sy'n son am betha ar y funud yn hytrach na chylchgronna hynnach a haws ar gyfer dysgwyr. Yn anffodus mae na anghenion a dwnim pa gylchgrawn fasa ora:-

*eitha hawdd, ddim rhy anodd i wneud ni isio peidio siarad ffrangeg byth eto
*ddim mor hawdd fel ein bod ni ddim yn dysgu bygyr ol
(i chi gal gwbod y gradd, da ni gyd yn gneud ein lefel A ffrangeg flwyddyn nesa, a bob un ohonnom ni di cal a* yn tgau, dwnim am AS eto am resymau amlwg)
*eitha rhad - mond tair ohona ni ar y mwya fydd yn gallu rhannu'r gost
*oleia 1 erthygl ddiddorol bob mis, am wbath o bwys, yn hytrach na gossip ne ffasiwn

Diolch am ynrhyw help!





Wel...yn ein ysgol ni da ni'n cal cylchgronnau Ffrangeg ar gyfer TGAU ac lefel A. Mae'n nhw yn trafod lot o bethau gwahanol ac wedi ei anelu at bobl ifanc yr 21fed ganrif!! Lot o bethau hwyl a llawer o wybodaeth ar gael. Dwi'n credu eu bod nhw wedi helpu llawer ar ein grwp TGAU Ffrangeg ni i ddysgu geiriau newydd a ffeindio lot allan am Ffrainc a beth sy'n mynd ymlaen yno!! Enw nhw ydi Ca Va a Salut. Search ar google a bydd hi'n hawdd dod o hyd iddyn nhw!! Gobeithio fod hyn yn help!

PostioPostiwyd: Iau 12 Ebr 2007 11:27 pm
gan sara
problem solved, gafon ni bentwr o hen gylchgronna gin un o ferched yr athrawon, petha fatha elle a marie claire. Diolch am yr help beth bynnag!