'Cymru' mewn sawl iaith?

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan sanddef » Llun 02 Hyd 2006 12:36 pm

Hefyd:

Waliczyk (Cymro) -Pwyleg
Der Waliser (Y Cymro) -Almaeneg
Waliseren (Y Cymro) -Daneg
Galestarra (Cymro/Cymraes) -Basgeg
el galés/la galesa (Y Cymro/Y Gymraes) -Sbaeneg
Cambria (Cymru) -Lladin
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan sjj93gg » Llun 02 Hyd 2006 1:24 pm

sanddef rhyferys a ddywedodd:Sgwn i sut mae pobl Fietnam yn ynganu "Cymru"?


Fi hefyd! Ti'n meddwl bod nhw'n wir yn deud "Cymru" yn Fietnam? Sai'n siwr.
sjj93gg
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 9
Ymunwyd: Gwe 08 Gor 2005 9:59 pm
Lleoliad: Llundain

Postiogan sjj93gg » Llun 02 Hyd 2006 3:45 pm

Swahili - Welisi

Ond...

Mae mwyafrif siaradwyr Swahili yn defnyddio'r air "Uingereza" am Loegr, Brydain, neu'r Deyrnas Unedig a dydyn nhw ddim yn gwahaniaethu gwledydd Prydain (fel y Saeson 'te!).
sjj93gg
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 9
Ymunwyd: Gwe 08 Gor 2005 9:59 pm
Lleoliad: Llundain

Postiogan Llwyd y Mynydd » Gwe 06 Hyd 2006 8:39 pm

Yn Gatalaneg, Gal·les yn hytrach na Gal.les. És la 'ela geminada' (una l hir, er bod yr l hir wedi diflannu o'r iaith erbyn hyn - mae fel 'y' ac 'u' yn y Gymraeg - yr un ynganiad iddynt erbyn heddiw (Cymry, Cymru), ond yn ein hatgoffa eu bod yn wahanol ar un adeg.

Mae llawer yn ysgrifennu l.l yn lle l·l - y 'punt volant' yw'r enw ar y dot uwchben y llinell, y 'dot hedegog'. Mae'n debyg ei bod yn haws wrth ddefnyddio teipiadur neu lythrennau gwasg Gastilaidd ("Sbaeneg") i ddodi dot ar y llinell. Erbyn hyn, mae'n hawdd teipio l·l ar fysellfwrdd cyrifiadur.

Rwy'n cofio bu tipyn o gynnen rai blynyddoedd yn ôl am i'r Awdurdod Trafnidiaeth yma yn ninas Barcelona ddodi l.l ar ei arwyddion. Fe cynigion nhw’r esgus ei fod yn weithred fwriadol, iddyn nhw ei wneud am ‘resymau esthetig’! (Digwyddod peth tebyg ar stamp Iwerddon rai blynyddoedd yn ôl - yr arlunwyr wedi rhoi EIRE (= baich, llwyth) yn lle ÉIRE (â’r ‘fada’ - yr acen ddyrchafedig) - rhoddwyd y stampiau ar werth, bu cryn helynt ynghylch y peth,a chafwyd yr un esgus gan y llywodraeth - ‘rhesymau esthetig’!

Wn i ddim a newidiwyd y l.l gan yr Awdurdod Trafnidiaeth yn y diwedd - rwy'n teithio ar y metro bob dydd yma, ond heb fynd i orsaf Paral·lel yn aml. Bydd rhaid imi sylwi’n fanwl ar yr arwyddion y tro nesaf.

John Morris Jones/ A Welsh Grammar / 1913, tudalen 25
“In Middle Welsh the ll sound is represented by ll, in some manuscripts e.g. the Red Book of Hergest, it is ligatured thus (ac mae yma sumbol o ll â chyfrwymiad drosti) enabling it to be distinguished from double l as in callon Red Book Mabinogion page 106 ‘heart’, Iollo Red Book Poetry, pages 1368, 1407, kollyn Red Book of Hergest page 1073 ‘pivot’, which we now write calon, Iolo, colyn

Tudalen 25:
http://img71.imageshack.us/my.php?image=1455jmjwelshgrammar1913254as.jpg

Gramadeg John Morris-Jones yn ei grynswth:
http://www.theuniversityofjoandeserrallonga.com/kimro/amryw/1_gramadeg/gramadeg_1913_jmj_welsh_grammar_1_phonology_2489e.htm

Pe byddai John Morris-Jones wedi bod yn gyfarwydd â’r iaith Gatalaneg, efallai y byddwn ni erbyn heddiw yn ysgrifennu cal·lon, Iol·lo, col·lyn yn y Gymraeg!
Rhithffurf defnyddiwr
Llwyd y Mynydd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 30
Ymunwyd: Sul 21 Mai 2006 2:31 pm
Lleoliad: Abertawe gynt

Postiogan Llwyd y Mynydd » Gwe 06 Hyd 2006 8:53 pm

Saesneg ymwelwyr yn y Rhyl (pobl Manceinion) WÊLZ
Saesneg ymwelwyr yn Aberystwyth (Brymis y rhan fwyaf) WAILZ
Saesneg Gwlad yr Haf WOILZ
Rhithffurf defnyddiwr
Llwyd y Mynydd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 30
Ymunwyd: Sul 21 Mai 2006 2:31 pm
Lleoliad: Abertawe gynt

Little Brits

Postiogan Ugain I Un » Iau 12 Hyd 2006 3:16 pm

Yn yr iaith wyddeleg Cymru ydi An Bhreatain Bheag
Hynny yw Little Britain! (Bheag = Fach)

Sy'n gwenud y Cymry'n 'Little Brits' sydd hefyd yn reit agos at y gwir!



Is fearr an troid ná an t-uaigneas. (Conflict is preferable to loneliness)
Ugain I Un
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 93
Ymunwyd: Maw 01 Awst 2006 10:57 am

Nôl

Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron