'Cymru' mewn sawl iaith?

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Tegwared ap Seion » Mer 30 Awst 2006 12:57 pm

:D Ma' gen ti dri bocs ar dy gefn?! Blydi cyfrifiadur :drwg:
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Re: 'Cymru' mewn sawl iaith?

Postiogan Mihangel Macintosh » Mer 30 Awst 2006 1:46 pm

Tegwared ap Seion a ddywedodd:Bhreatain Bheag - Gwyddeleg*
Chuimrigh - Gaeleg*

*BE ydw i fod i alw 'rhain?!


Albaneg ydi iath yr Alban.
Gwyddeleg ydi iaith Iwerddon.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Re: 'Cymru' mewn sawl iaith?

Postiogan anffodus » Mer 30 Awst 2006 2:56 pm

Mihangel Macintosh a ddywedodd:
Tegwared ap Seion a ddywedodd:Bhreatain Bheag - Gwyddeleg*
Chuimrigh - Gaeleg*

*BE ydw i fod i alw 'rhain?!


Albaneg ydi iath yr Alban.


I fi mae Albaneg yn swnio fwy fel iaith Albania na'r Alban. Gaeleg neu Gaeleg yr Alban fyddwn i'n galw iaith yr Alban.
Cod ar dy draed y llipryn! Lle ti'n feddwl wt ti?! Butlins?!!
anffodus
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 265
Ymunwyd: Maw 07 Maw 2006 7:31 pm
Lleoliad: trefor (yn y tywyllwch - newydd gal powercut)

Postiogan y mab afradlon » Gwe 01 Medi 2006 4:17 pm

Llefenni a ddywedodd:
a fy ffefryn personol...

Duw a Wyr a ddywedodd:უელსი


Georgieg. Mae'n cael ei ynganu fel 'Welsi' 8)

Gweler http://www.omniglot.com/writing/georgian2.htm
y mab afradlon
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 224
Ymunwyd: Gwe 25 Chw 2005 2:23 pm
Lleoliad: ymyl mynydd yng nghwm rhymni

Re: 'Cymru' mewn sawl iaith?

Postiogan sian » Gwe 01 Medi 2006 4:59 pm

Mihangel Macintosh a ddywedodd:
Tegwared ap Seion a ddywedodd:Bhreatain Bheag - Gwyddeleg*
Chuimrigh - Gaeleg*

*BE ydw i fod i alw 'rhain?!


Albaneg ydi iath yr Alban.
Gwyddeleg ydi iaith Iwerddon.


Yn ol Briws, iaith Albania yw Albaneg. Gaeleg yr Alban yw Scots Gaelic.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Y Fampir Hip Hop » Gwe 01 Medi 2006 7:35 pm

sian a ddywedodd:Yn ol Briws, iaith Albania yw Albaneg. Gaeleg yr Alban yw Scots Gaelic.

Neud synnwyr i fi! :)
Beth yw'r iaith 'Lowland Scots', neu 'Scots' yn Gymraeg de?
"Never trust a man in a blue trench coat, Never drive a car when you're dead..."

|Flickr|
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fampir Hip Hop
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1129
Ymunwyd: Iau 24 Tach 2005 4:42 pm
Lleoliad: Abercraf, Cwm Tawe Ucha'

Postiogan 7ennyn » Gwe 01 Medi 2006 9:30 pm

Y Fampir Hip Hop (ar Sgots) a ddywedodd:Iaith Eingl-sacsonaidd oedd wedi datblygu o hen Saesneg yn r'ardal na o'r Gogledd yw e a nid jesd Saesneg wedi sillafu yn twp.

Hmmm, dwnim! Dwi o'r farn mai sgam gan Albanwyr sydd a chywilydd nad ydyn nhw'n gallu siarad Gaeleg, ond sydd yn rhy ddiog i'w dysgu, ydi'r honiad bod Sgots yn iaith arwahan. Mewn gwirionedd, mae siaradwyr Sgots modern yn dueddol o or-bwysleisio y gwahaniaethau bychain sydd yn bodoli rhwng eu tafodiaith hwy a Saesneg safonol. Mae hyn yn fygythiad i statws yr Aeleg yn yr Alban yn fy marn bach i. Os ydi Sgots yn iaith arwahan, yna mae Geordie yn iaith arwahan.

(Sori am darfu ar yr edefyn ddifyr yma Teg! O'n i jest isio gollwng stem!)
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Postiogan Y Fampir Hip Hop » Gwe 01 Medi 2006 9:52 pm

Digon teg 7ennyn, dwi'n teimlo hwna rhai weithe 'fyd!
Ond fi'n amau bod na rannau o'r Alban, y de ar y fin da Loegr, ble roedd Gaeleg erioed di gal i siarad. Fi'n gwbod nad yw Wikipedia wastod yn iawn, ond mae'r erthygl ar Scots yn gweud bod tafodiaeth iaith Eingl-Sacsonaidd yn gael eu siarad yn de-dwyrain yr Alban mor ogleddol a'r Afon Fforth erbyn y 7fed Ganrif. Wrth gwrs yn y de-orllewin, ffurf o'r Hen Iaith o nhw'n siarad. Felly odd presenoldeb eingl-sacsonaidd ei hiaith' yn yr ardal pan oedd y pethe ni'n dosbarthu fel ieithoedd dyddie 'ma mewn eu blentyndod.
Felly sai'n gwbl sicr ble i sefyll arno'r mater hon. Achos effaith y Gaelig, fi yn cretu ma Scots yn fwy wahanol i Saesneg tradoddiadol na 'ma Geordie ddo. :winc:
"Never trust a man in a blue trench coat, Never drive a car when you're dead..."

|Flickr|
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fampir Hip Hop
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1129
Ymunwyd: Iau 24 Tach 2005 4:42 pm
Lleoliad: Abercraf, Cwm Tawe Ucha'

Postiogan Mr SRG » Gwe 01 Medi 2006 9:56 pm

"Waleshire"-y term sy'n gwrthod diflannu o benau rhai penau bach y ddaear hon...Efallai nad yw hi'n cael ei ynganu llawer-ond mae hi'n derm rhy gryf o lawer ym meddylaiu rhai pobl! Iaith- Twatiaith!
Mr SRG
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 7
Ymunwyd: Gwe 01 Medi 2006 7:43 pm
Lleoliad: Ar dir sych

Postiogan sian » Gwe 01 Medi 2006 10:04 pm

Trafodaeth ar Scots fan hyn
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

NôlNesaf

Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai